Carwyn Jones yn lansio'r strategaeth iaith
Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru greu 11,000 o siaradwyr Cymraeg newydd bob blwyddyn, os am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Cafodd strategaeth iaith “uchelgeisiol” y Llywodraeth ei lansio heddiw ar faes y Brifwyl, ac mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn cydnabod ei bod yn un “heriol”.

Roedd stondin Llywodraeth Cymru yn llawn pobol oedd am glywed am ei syniadau dros gyflawni’r nod – sef y “darged fwyaf uchelgeisiol” y mae’r Llywodraeth wedi’i gosod i’w hun erioed.

Fe ddywedodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg, fod angen “gweledigaeth bositif ac uchelgeisiol” i gyflawni’r nod, ac mai “edrych at y dyfodol sy’n bwysig.”

“Beth ry’n  i’n sôn am heddiw, nid jyst trafod am sut rydyn ni’n defnyddio’r Gymraeg a’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg… ond ry’n ni’n sôn am adfer yr iaith Gymraeg fel iaith genedlaethol Cymru,” meddai, gan fynnu nad siop siarad yw’r cwbl.

“Newid cyd-destun y Gymraeg, creu siaradwyr Cymraeg, trafod lle’r Gymraeg yn ein cymdeithas, cymuned a’n gwlad ni. Mae hynny’n wahanol i beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol.”


Whilber Cymdeithas yr Iaith
Galw am weithredu’n syth

Ond daeth beirniadaeth yn erbyn dogfen ymgynghorol y Llywodraeth gyda Chymdeithas yr Iaith yn galw am weithredu yn syth gan ddweud ei bod yn “unfed awr ar ddeg” ar gymunedau Cymraeg eisoes.

Ac fe feirniadodd y mudiad y Llywodraeth hefyd am “fethu â chyflawni” ei argymhellion yn ei strategaeth iaith ddiwethaf Iaith Fyw, Iaith Byw, gan gyflwyno whilber i Carwyn Jones ac Alun Davies â’r adroddiad hwnnw.

Fe gododd Jamie Bevan, cadeirydd y mudiad, y cwestiwn a all bobol Cymru “ymddiried” yn y Llywodraeth i gynyddu nifer y siaradwyr.

“Sut allwn ni gael ffydd ynddoch chi nawr i weithredu’r strategaeth, pan nad yw argymhellion a chyngor yr arbenigwyr wedi cael eu gweithredu yn y blynyddoedd diwetha’?” meddai.

Fe atebodd Alun Davies ei fod am i bobol “gredu” yn yr hyn mae’n dweud, “fel un sydd wedi dysgu Cymraeg ac sydd wedi magu ei blant yn y Gymraeg.”

“Dwi eisiau trafod gyda phobol, nid yn unig pobol ar faes yr Eisteddfod, ond pobol sydd ddim erioed wedi bod i Eisteddfod i symud i ble rydym ni eisiau bod,” ychwanegodd.

Alun Davies ‘yn 86 oed erbyn 2050’

Fe nododd Alun Davies y byddai’n 86 oed erbyn i 2050 gyrraedd, sy’n codi’r cwestiwn ynglyn a sut fydd y Llywodraeth yn mesur ei chynnydd er mwyn sicrhau y bydd yn cyrraedd y nod yn y pendraw.

“Ry’n ni’n mynd i gael targedau yn ystod y blynyddoedd nesaf,” meddai Alun Davies.

Ychwanegodd y bydd amserlen o dargedau ar yr hyn fydd y Llywodraeth yn ei wneud, sut a phryd.