Arwydd dwyieithog Costa Caernarfon
Mae siop goffi agorodd ei drysau’r wythnos hon wedi cynddeiriogi ymgyrchwyr Iaith.

Dim ond un arwydd Cymraeg sydd ar Siop Costa Coffi Caernarfon – ar y drws i fynd fewn – tra bo sawl un Saesneg.

Mae Menna Machreth, aelod brwd o Gymdeithas yr Iaith sy’n byw yng Nghaernarfon, wedi beirniadu’r diffyg arwyddion Cymraeg.

“Mae ymddygiad y cwmni’n gywilyddus. Mae sawl un wedi cysylltu gyda ni yn barod i ddweud nad ydyn nhw’n hapus, a sawl neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud bod absenoldeb y Gymraeg yn anghydnaws â natur ieithyddol y dre.”

Mae Menna Machreth yn annog pobl i fynd i’r caffi i gwyno.

“Rydyn ni am ysgrifennu at y cwmni gan fynnu eu bod yn unioni’r sefyllfa’n syth, ac yn annog pawb i fynd i’r caffi a dweud wrth y rheolwr eu bod wedi’u siomi. Byddwn ni hefyd yn gofyn i Gyngor Gwynedd roi mwy o bwysau ar Costa i newid y sefyllfa.”

Ar eu cyfrif Twitter mae Costa wedi cadarnhau na fyddan nhw yn cyfieithu’r fwydlen, yn dilyn ymholiadau trwy’r gwasanaeth trydar. Fe ddywedodd un o’r staff yng Nghaernarfon wrth ohebydd golwg360: Pam bod pobl yn edrych ar Costa? Beth am arwyddion yn McDonalds a KFC sydd yma’n barod?’”

Cyngor Gwynedd am godi’r mater

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod am gysylltu gyda Costa i godi’r mater – er nad oes ganddyn nhw’r hawl i orfodi unrhyw fusnes i ddangos arwyddion dwyieithog.

“Mae rheolwr Gwasanaeth Cynllunio’r Cyngor yn trefnu i adolygu’r arwyddion yn y caffi a bydd hefyd yn ysgrifennu at y cwmni yn gofyn iddynt sicrhau fod yr arwyddion yn y siop yn cyfarch anghenion ieithyddol yr ardal.

“Yn gyfreithiol, nid yw’n bosib i’r Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Gwynedd fynnu ar arwyddion dwyieithog. Er hyn,  pan mae’r Cyngor yn derbyn ceisiadau cynllunio ar gyfer arddangos arwyddion, rydym yn gyrru gwybodaeth safonol i’r cwmni dan sylw ynglŷn ag anghenion ieithyddol a diwylliannol yr ardal gan annog pwysigrwydd o gael arwyddion Cymraeg a Saesneg.

“Yn achos Costa – fel pob cais arall – anfonwyd gwybodaeth am arwyddion dwyieithog i’r cwmni cyn i’r cais gael ei gyflwyno a gyda’r caniatâd cynllunio.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Costa am sylw ond heb gael ateb hyd yma.


Arwydd tu fewn y siop