Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar ysgrifennydd addysg Cymru i wrthod argymhelliad Corff Cymwysterau Cymru i barhau gyda dysgu’r Gymraeg fel ail iaith yn dilyn cyfarfod gyda ddoe.

Fe wnaeth y mudiad iaith gyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams a Gweinidog y Gymraeg Alun Davies ddoe.

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Toni Schiavone ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg“Fe gawson ni gyfarfod adeiladol gyda’r Ysgrifennydd Addysg a Gweinidog y Gymraeg. O ganlyniad, rydyn ni’n mawr obeithio nawr y bydd Kirsty Williams yn mynd ati rhagblaen i wrth-droi cam gwag Cymwysterau Cymru gan gymryd y cyfle mawr sydd gyda hi i osod ei stamp.”

Mae Toni Schiavone yn galw am sefydlu cwricwlwm Cymreig ar fyrder, “Galwn arni’n benodol i unioni’r cam a wnaethpwyd gan Gymwysterau Cymru gan roi sicrwydd y bydd y cwricwlwm Cymraeg mewn lle erbyn 2018 gydag arholiad cyfun TGAU newydd yn cael ei arholi am y tro cyntaf yn 2020. Mae’n ddyletswydd ar y Llywodraeth i gychwyn ar y gwaith hwnnw yn awr yn hytrach na gwastraffu amser yn diwygio cymhwyster sy’n amddifadu 80% o’n pobol ifanc o’r gallu i siarad Cymraeg.

Ychwanegodd, “Mae’n glir bod y Llywodraeth yn derbyn bod y system bresennol yn amddifadu miloedd ar filoedd o’n pobl ifanc o’r cyfle i ddysgu Cymraeg ac o’r herwydd mae cyfrifoldeb ar Kirsty Williams i weithredu’n syth. Dylai fod ar flaen meddyliau pawb sydd â chyfrifoldeb am ein cyfundrefn addysg fod degau o filoedd o’n pobol ifanc yn cael eu hamddifadu o’r gallu i geisio am swyddi a mwynhau’r holl gyfleoedd sy’n deillio o fedru’r Gymraeg. Nid yw’n dderbyniol nad yw pob plentyn yng Nghymru yn cael yr un cyfle. Mae’r drafodaeth wedi cychwyn ers 2013. Does dim esgus i lusgo traed. Nawr yw’r amser i weithredu.”