Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae dros draean o weithwyr Llywodraeth Cymru’n cael eu disgrifio fel “rheolwyr” yn ôl Cais Ryddid Gwybodaeth a gafodd ei gyflwyno gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Yn ôl y blaid, mae’r ffigurau yn dangos bod “diffyg arweinyddiaeth” o fewn y gwasanaeth sifil yng Nghymru a bod “gormod o benaethiaid a dim digon o weithwyr”.

Roedd y cais rhyddid gwybodaeth yn dangos bod y Llywodraeth wedi gwario £268.7 miliwn ar gyflogau  staff rhwng 2013 a 2014, a £273.5m erbyn 2015/16.

Dros yr un cyfnod, fe wnaeth nifer y rheolwyr o fewn gweithlu Llywodraeth Cymru godi o 35.2% i 37.2%, gyda 2,026 o’r 5,446 o staff yn cael eu disgrifio fel rheolwyr.

“Dim synnwyr”

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, mae’r ffigurau hyn yn “hurt”, ac yn dangos bod nifer staff y Llywodraeth wedi “chwyddo gormod.”

“Pwy sy’n cymryd cyfrifoldeb pan fydd pethau’n mynd o’i le, os oes bron i 40% o’r staff ar lefel rheoli?”, meddai.

“O bersbectif ymarferol, dyw e ddim yn gwneud synnwyr o gwbl.”

Mae’r Ceidwadwyr yn dweud hefyd bod 20% o staff Llywodraeth Cymru’n cael eu talu rhwng £45,000 a £122,000 y flwyddyn.

Mae llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsay, wedi dweud bod y ffigurau’n “nodweddiadol o’r gor-fiwrocratiaeth sydd wrth wraidd Llywodraeth Lafur Cymru.”

‘Diffyg dealltwriaeth’

Ond meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y sylwadau yn “dangos diffyg dealltwriaeth o’r ffordd mae llywodraeth yn gweithio.

“Fel y byddwch yn ei ddisgwyl, mae gan y mwyafrif o staff rhyw lefel o gyfrifoldeb goruchwylio, p’un a ydyn yn rheoli staff, prosiectau neu gyllidebau.”