Dros y tair blynedd diwethaf mae cynnydd o 61% wedi bod mewn taliadau goramser i feddygon ymgynghorol yn ysbytai Cymru.

Cododd y taliadau yng Nghymru o £5 miliwn yn 2013/14 i fwy na £8m yn 2015/16, yn ôl chwech o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru wrth ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan y BBC.

Dros y DU, bu cynnydd o draean o £125 miliwn yn 2013-14 i £168m yn 2015/16.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cynnydd yn cynrychioli ychydig dros 0.1% o gyfanswm gwariant y Byrddau Iechyd a’u bod yn ceisio recriwtio mwy o feddygon i fynd i’r afael â phrinder staff mewn rhai arbenigeddau.

Byrddau Iechyd Cymru

Yn ôl y ffigyrau a dderbyniwyd gan y BBC, Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg welodd y cynnydd mwyaf o £1,258,000 yn 2013/14 i £3,290,000 yn 2015/16 – cynnydd o £2,452,000.

Bu cynnydd o £266,426 i £806,354 ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda; £822,672 i £2,104,151 ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan; a £634,000 i £910,000 ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf.

Ond bu gostyngiad yn y taliadau i ddau fwrdd iechyd, gyda chostau Bwrdd Iechyd  Betsi Cadwaladr yn gostwng o £1,627,830 i £775,941 a Bwrdd Iechyd Powys yn gostwng o £503,329 i £360,743.

Ni chafwyd ymateb i’r cais rhyddid gwybodaeth gan Fwrdd Iechyd Caerdydd ar Fro.

Mwy o staff

Wrth ymateb i’r ffigyrau, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r galw am wasanaethau a ddarperir gan Wasanaeth Iechyd (GIG) Cymru yn parhau i dyfu. Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, mae byrddau iechyd wedi bod yn gweithio’n galed i recriwtio mwy o staff, gan gynnwys meddygon ymgynghorol.

“O ganlyniad, mae rhagor o staff rheng flaen yn gweithio i GIG Cymru nag erioed o’r blaen gyda nifer y meddygon ymgynghorol yn cynyddu o 41.5% ers 2005. Byddwn yn parhau i gefnogi byrddau iechyd yn eu hymdrechion i hyfforddi a recriwtio staff ac yn gweithio’n agos gyda nhw a phartneriaid eraill i fynd i’r afael â phrinder staff mewn rhai arbenigeddau.

“Mae hefyd yn bwysig edrych ar y ffigurau hyn mewn cyd-destun – roedd y gwariant a adroddwyd gan y Byrddau Iechyd Lleol yn cynrychioli ychydig dros 0.1% o gyfanswm gwariant byrddau iechyd.”