Y tŷ lle bu farw bachgen 4 oed, yn Lon Tanyrallt, Alltwen ger Pontardawe Llun: Ben Wright/PA Wire
Mae bachgen, 4 oed, wedi marw mewn tân mewn tŷ ym Mhontardawe yn oriau mân y bore ma, meddai Heddlu De Cymru.

Fe ddechreuodd y tân mewn eiddo yn Lon Tan-yr-allt, Alltwen ger Pontardawe am 1.40yb bore dydd Mercher.

Roedd y bachgen, sydd wedi cael ei enwi’n lleol fel Jac, mewn ystafell ar lawr cyntaf y tŷ, ynghyd â bachgen tair oed hefyd.

Fe aeth pedwar diffoddwr tân i mewn i’r adeilad i achub y ddau fachgen o’r tŷ, meddai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Roedd mam y bachgen wedi ffonio’r gwasanaethau brys am 1:40yb a phan gyrhaeddodd y frigâd dân roedd hi wedi llwyddo i adael y tŷ gyda’i merch chwech oed  a’i mab 11 mis oed, wrth i gymdogion geisio achub y ddau fachgen oedd yn y tŷ.

Fe lwyddodd diffoddwyr i achub y ddau fachgen o’r tŷ ond bu farw’r plentyn pedair oed.

Cafodd y ddynes, 28 oed, sydd wedi cael ei henwi’n lleol fel Jennifer Davies, a’r tri phlentyn arall, eu cludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe, yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.

“Golygfa ddryslyd”

Fe ddywedodd Chris Margetts, uwch-reolwr gweithredu’r gwasanaeth tân, fod y tân yn un “difrifol iawn.”

“Pan gyrhaeddom, roedd y fam a’r ferch chwech oed y tu allan i’r tŷ ac roedd y ddau blentyn ifanc y tu fewn o hyd,” meddai.

“Fe aeth diffoddwyr i mewn ag offer anadlu ac achub y plant – bachgen tair oed a bachgen pedwar oed. Yn anffodus, wnaeth y bachgen pedwar oed ddim goroesi.

“Roedd y tân wedi datblygu’n llawn ac roedd yn boeth ac yn heriol. Roedd yn olygfa ddryslyd – pan gyrhaeddodd y diffoddwyr, roedd pobol eraill, cymdogion, yn ceisio mynd i mewn i’r tŷ i geisio achub y plant.

“Roedd y criwiau tân wedi canolbwyntio ar chwilio ac achub  a dw i’n falch iawn o ddewrder a phroffesiynoldeb y diffoddwyr.

“Mae meddyliau’r gwasanaeth tân gyda’r teulu a chymuned Alltwen ar yr adeg ofnadwy hon. Mae’n gymuned agos iawn ac mae gennym dimau arbenigol i’w cefnogi.”

Fe aeth tair brigâd dân i’r safle, un o Bontardawe, Treforys a Chastell-nedd.

Apelio am dystion

Mae Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân De Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i achos y tân ac yn apelio am unrhyw dystion i gysylltu â’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1600282822.