Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi rhoi gwybod i rai o sefydliadau pwysicaf Cymru pa safonau’r Gymraeg fydd disgwyl iddyn nhw gydymffurfio â nhw.

Mae Meri Huws wedi cyhoeddi hysbysiad cydymffurfio i 30 o sefydliadau, yn nodi’r safonau ac erbyn pryd fydd rhaid iddyn nhw eu dilyn – sef 25 Ionawr 2017.

Ymhlith y sefydliadau mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru ac Estyn.

Y llynedd, bu ffrae rhwng Cymdeithas yr Iaith a’r Ardd Fotaneg ar ôl i arwyddion uniaith Saesneg gael eu gosod yno, a’r diffyg darpariaeth Cymraeg ar y wefan yn mynd yn groes i’w polisi iaith ac i gytundeb grant gyda Llywodraeth Cymru.

168 o safonau

Dyma’r ail dro i Gomisiynydd y Gymraeg  ddefnyddio ei phwerau dan Fesur y Gymraeg i roi hysbysiadau cydymffurfio â safonau’r Gymraeg.

Mae’r hysbysiadau yn cyflwyno 168 o safonau i’r sefydliadau ac mae ganddyn nhw’r hawl i herio’r safonau os oes ganddyn nhw reswm dros wneud hynny.

Yn ôl Meri Huws, bydd y “ffordd mae sefydliadau’n trin ac yn defnyddio’r Gymraeg yn newid” wrth i’r safonau newydd ddod i rym.

“Y nod yw sicrhau mwy o hawliau i bobl Cymru ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, ac wrth ymwneud gyda’r sefydliadau hyn,” meddai.

Bydd cynlluniau iaith y sefydliadau hynny dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn cael eu disodli gan y safonau newydd.

Bydd y Comisiynydd yn parhau i gyflwyno hysbysiadau i fwy o sectorau a sefydliadau – cynghorau sir oedd y diweddaraf i dderbyn rhai cyn heddiw, gyda nifer ohonynt wedi penderfynu eu herio.