Llun: PA
Mae’r cynnydd ynghylch ceisio lleihau tlodi yng Nghymru wedi bod yn “siomedig”, yn ôl un o felinau trafod mwya’ Cymru.

Mae’r Sefydliad Bevan hefyd wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio â blaenoriaethu taclo tlodi yn ei rhaglen lywodraethu ac wedi galw arni i wneud mwy.

Yn ôl ffigurau’r elusen, mae tua 700,000 o bobol – llawer ohonyn nhw mewn gwaith – yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Dydy hyn heb newid ers canol y 2000au, a dyma’r ffigwr uchaf ledled y Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi ymrwymo i greu Cymru “gyfartal a ffyniannus”, ac yn dweud bod y gyfradd cyflogaeth yn tyfu’n gynt yng Nghymru nag yn holl wledydd eraill Prydain.

“Mae’r ffigurau’n siomedig iawn. Mae’r ffaith bod tua 700,000 o bobol – llawer ohonynt mewn gwaith – yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd, yn awgrymu nad yw polisïau Llywodraeth Cymru a’r DU yn gweithio,” meddai Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, Dr Victoria Winckler.

“Yn waeth na hynny, mae lleihau tlodi i’w weld wedi disgyn oddi ar agenda Llywodraeth Cymru, gyda chyfeiriadau prin ym maniffesto Llafur Cymru a swydd y Gweinidog Taclo Tlodi yn diflannu.”

3 o bob 10 mewn tlodi

Yn ôl yr elusen, mae nifer y plant yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi wedi gostwng i 29% o’r boblogaeth ond mae cynnydd wedi bod i 17% yn nifer y pensiynwyr ar incymau isel.

“Mae’r gostyngiad mewn tlodi plant yn newyddion da, ond rhaid i ni beidio anghofio bod hyn dal yn golygu bod tri o bob 10 plentyn yn byw mewn teuluoedd tlawd,” ychwanegodd Victoria Winckler.

“Mae cyfran y plant sy’n byw mewn tlodi yn parhau i fod bron ddwywaith hynny o bensiynwyr: mae’n bryd gofyn a yw’r cydbwysedd rhwng cymorth i blant a phensiynwyr yn gywir.”

Mae tlodi yn cael ei gysylltu â phlant sydd ddim yn gwneud cystal yn yr ysgol, nifer uwch o afiechydon, a marw’n ieuengach.

“Angen gwella cyflogau ac amodau”

Dywedodd y Sefydliad Bevan fod angen gwneud mwy na chanolbwyntio ar gael pobol yn ol i fyd gwaith.

“Mae angen newid ffordd arnom – dyw canolbwyntio ar gael pobol i mewn i waith ddim yn taclo’r broblem bod gormod o gartrefi heb ddigon i fyw,” meddai Victoria Winckler.

“Mae angen gwthio i wella cyflog ac amodau llawer o swyddi yng Nghymru, a sicrhau y gall bobol feithrin sgiliau gwell drwy gydol eu bywydau yn y gwaith.”

Llywodraeth wedi “ymrwymo” i daclo tlodi

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’n “gweithio’n galed” i helpu pobol i ddianc rhag tlodi ac wedi ymrwymo i greu Cymru “gyfartal a ffyniannus”.

“Mae’r gyfradd cyflogaeth yn tyfu’n gynt yng Nghymru nac yn holl wledydd eraill y DU, ac yma mae’r gyfradd diweithdra wedi cwympo fwyaf yn y 12 mis diwethaf,” meddai llefarydd.

“Rydyn ni’n gweithio’n galed i weld sut y gallwn ni ddod â mwy o ffyniant i bobl Cymru a helpu pobl i ddianc rhag tlodi.

“Mae creu swyddi, cau’r bwlch cyrhaeddiad addysg a gwella sgiliau i gyd yn flaenoriaethau i’r Llywodraeth, a nhw yw’r cyfryngau gorau sydd ar gael inni drechu tlodi yng Nghymru.

“Rydyn ni hefyd yn parhau i fuddsoddi ym mlynyddoedd cynnar bywyd plentyn gan fod tystiolaeth yn dangos mai dyma le cawn ni’r effaith fwyaf o ran gwella iechyd, addysg a chanlyniadau eraill.”

Yn ôl ffigurau’r Sefydliad Joseph Rowntree, yr amcangyfrif yw bod tlodi plant yn costio mwy na  £1.6 biliwn i’r pwrs cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn.