Joshua Hoole a'i ddyweddi, Rachael McKie Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud ei fod yn parhau ag ymchwiliad i farwolaeth anesboniadwy milwr yn ystod ymarferiad y fyddin ym Mannau Brycheiniog wythnos ddiwethaf.

Ni  fydd cwest i farwolaeth Joshua Hoole yn cael ei agor ar hyn o bryd, gyda disgwyl am ganlyniadau post mortem ar ddiwedd mis Medi.

Bydd yr heddlu yn ymchwilio i’r canlyniadau, ynghyd â gwybodaeth arall fydd ar gael drwy gydol yr ymchwiliad, meddai.

Bu farw’r milwr 26 oed o Ecclefechan ger Lockerbie, yn yr Alban, ar ôl bod yn ymarfer gyda’r fyddin dydd Mawrth, diwrnod poetha’r flwyddyn hyd yn hyn, gyda’r tymheredd wedi codi dros 30 gradd selsiws.

Roedd yn aelod o gatrawd y Reifflau ac yn cymryd rhan yn yr ymarferiad i ddod yn sarjant.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn eisoes wedi dweud y bydd yn cynnal ymchwiliad llawn i’w farwolaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys, fod Swyddog Cyswllt y Teulu yn “parhau i gefnogi” ei deulu.

Marwolaethau eraill

Bu farw tri milwr, Edward Maher, Craig Roberts a James Dunsby, mewn ymarferiad milwrol ym Mannau Brycheiniog yn 2013, ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn honno hefyd.

Daeth crwner i’r casgliad bod esgeulustod yn rhannol gyfrifol am eu marwolaethau.

Arweiniodd hyn at gyhoeddi adroddiad dri mis yn ôl yn galw ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i fod yn gyfrifol am farwolaethau milwyr yn ystod ymarferiadau milwrol.

Ers 2000, mae 135 o bersonél y fyddin wedi marw wrth ymarfer.

Mae disgwyl i’r ymarferiad nesaf ym Mannau Brycheiniog gael ei gynnal ym mis Awst.