Keelie Ann Brooker (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am gymorth i ddod o hyd i ferch 15 oed.

Mae Keelie Ann Brooker wedi’i disgrifio fel merch 5 troedfrdd 6 modfedd, gyda gwallt brown. Roedd hi’n gwisgo tracwisg ddu a phâr o drênyrs glas am ei thraed pan welwyd hi y tro diwetha’ yn ardal Y Fflint

Mae unrhyw un a allai fod yn gwybod lle mae hi, yn cael eu hannog i ffonio’r heddlu ar y rhif 101.