Mae dau ddisgybl ysgol yn parhau’n yr ysbyty yn Ffrainc, wedi i’r bws o Gymru yr oedden nhw’n teithio arno wyro oddi ar y ffordd yn Ffrainc ddoe.

Mae un o’r disgyblion yn ymladd am ei fywyd, tra bod y llall mewn cyflwr difrifol. Fe gawson nhw ill dau eu cludo mewn hofrennydd o safle’r ddamwain ar draffordd yr A39 yn Lons-le-Saunier ar y ffin â’r Swisdir.

Mae deg disgybl arall ac un aelod o staff Cheltenham Bournside School wedi derbyn triniaeth i fân anafiadau, ond wedi eu gollwng o’r ysbyty bellach.

Fe ddaeth datganiad gan yr ysgol yn cadarnhau y b ydd 40 o ddisgyblion yn ogystal ag aelodau o staff yn dychwelyd adref heddiw ar drên Eurostar, ac y byddan nhw’n cyrraedd yn ôl i’r ysgol yn ystod oriau mân ddydd Llun.