Mae yna adroddiadau fod bws o Wynedd, yn cario pobol ifanc o ganolbarth Lloegr, wedi bod mewn gwrthdrawiad yn Ffrainc.

Y gred, ar hyn o bryd, ydi fod 13 o bobol ifanc rhwng 14 a 17 oed wedi’u hanafu, a bod tri o’r rheiny wedi anafu’n ddifrifol. Roedd 48 o deithwyr ar y bws o ysgol yn Cheltenham, ynghyd â dau yrrwr.

Mae heddlu Ffrainc wedi cadarnhau fod damwain wedi bod mewn digwyddiad ar draffordd ar y ffin â’r Swisdir, ac mae asiantaeth newyddion AFP yn adrodd fod y ddamwain wedi digwydd ger Lons-le-Saunier.

Fe ddaeth cadarnhad hefyd mai un o fysiau Express Motors, cwmni sydd â’i bencadlys ym Mhen-y-groes ger Caernarfon, a wyrodd oddi ar y lôn ar y ffordd i’r Eidal. Mae ambiwlans awyr wedi glanio ar y draffordd hefyd i gynorthwyo.