Carwyn Jones - 'cyfnod cythryblus' (Llun y Cynulliad)
Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi galw cyfarfod eithriadol o’r Cyngor Prydain-Iwerddon heddiw i drafod effeithiau Brexit.

Fe fydd arweinwyr wyth o lywodraethau’n casglu yng Nghaerdydd i drafod y drefn ac oblygiadau’r trafodaethau i adael.

Mae Carwyn Jones wedi mynnu bod rhaid i Gymru gael llais yn y trafodaethau hynny a bod eisiau sicrwydd y bydd hi’n cael pob dimai o’r arian sy’n arfer dod o Ewrop.

‘Cyfnod cythryblus’

“Mae gan y Cyngor ran unigryw a phwysig o ran datblygu perthynas gadarnhaol rhwng ei haelodau,” meddai Carwyn Jones.

“Yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, mae’n bwysicach nag erioed i ni gynnal cryfder y berthynas hon a chydweithio i ddod o hyd i ffordd lwyddiannus ymlaen.

“Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod cynrychiolwyr yr aelod-weinyddiaethau yn hwyrach heddiw i drafod sut y gallwn gyflwyno neges gadarnhaol, unedig ar ran bob rhan o’n hynysoedd i’r byd.”

Pwy fydd yno

Fe fydd Nicola Sturgeon yn cynrychioli’r Alban a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei chynrychioli gan James Brokenshire, Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon – dwy wlad a bleidleisiodd tros aros yn yr Undeb.

Yn ogystal â Carwyn Jones, fe fydd Prif Weinidog Iwerddon, y Taoiseach Enda Kenny, yno hefyd ynghyd â chynrychiolwyr o lywodraethau Ynys Manaw, Guernsey a Jersey. Iwerddon a Llywodraethau Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw.

Cafodd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ei sefydlu gan Gytundeb Belfast 1998, sylfaen proses heddwch Gogledd Iwerddon. Nod y cyngor yw bod yn fforwm i gyfnewid gwybodaeth a meithrin cydweithio rhwng y gwledydd.