Cynlluniau ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai
Mae parc gwyddoniaeth newydd, all greu hyd at 720 o swyddi yng Ngaerwen ar Ynys Môn, wedi derbyn caniatâd cynllunio llawn gan gyngor yr ynys.

Nod y prosiect, a fydd yn derbyn cyllid o £10.8 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yw creu safle i “sicrhau cyfleoedd gwaith o safon uchel” a “chreu cysylltiad rhwng cwmnïau arloesol a Phrifysgol Bangor.”

Cwmni dan adain Prifysgol Bangor sydd wedi cyflwyno’r cais ac maen nhw wedi dweud y byddai’n creu rhwng 150 a 720 o swyddi dros y 10 mlynedd nesaf.

Yn dilyn derbyn y caniatâd cynllunio llawn, mae disgwyl i’r gwaith adeiladu orffen yn 2017/18 a dywedodd cyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai, Ieuan Wyn Jones, eu bod nhw’n trafod â nifer o denantiaid posib o amryw o wahanol sectorau yn barod.

Helpu pobl ifanc

Meddai Ieuan Wyn Jones: “Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â nifer o strategaethau economaidd sydd ar y gweill ar hyn o bryd, a daw ar amser delfrydol i gysylltu â phrosiectau eraill sydd ar y gweill yn y rhanbarth, gan gynnwys Wylfa Newydd a phrosiectau yn y sector adnewyddadwy.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n deall bod angen i ni wneud mwy na dim ond darparu eiddo a chymorth busnes rhagorol er mwyn helpu cwmnïau i greu swyddi.   Er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu manteisio i’r eithaf ar y rolau hyn, dyn ni’n gweithio gyda Phrifysgol Bangor i ddarparu Graddau Meistr ac ysgoloriaethau er mwyn i fyfyrwyr allu graddio gyda’r sgiliau priodol.

Prifysgol yn chwarae rhan ‘flaengar’
Dywedodd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “Mae Prifysgol Bangor yn falch dros ben o glywed y newyddion fod y cais cynllunio manwl wedi’i gymeradwyo.

“Mae nifer o adrannau’r Brifysgol yn chwarae rhan flaengar yn y Prosiect yn barod, a dim ond cryfhau fydd y cydweithio hwn, wrth i’r Parc ddal ati i ddatblygu.”