Mae papur newydd dros dro, sydd wedi’i anelu at y 48% o bobol Prydain a bleidleisiodd i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, wedi cael ei lansio yng Nghymru.

Cafodd The New European ei sefydlu yn Lloegr ar ddechrau mis Gorffennaf, a bydd bellach ar gael mewn siopau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe, Castell-nedd, Llanelli a’r Barri ddydd Gwener.

Mae’r papur wythnosol sydd am “roi llais i bobol sy’n teimlo’n ddigalon” dros y canlyniad Brexit ym mis Mehefin, wedi ehangu i Glasgow a Chaeredin hefyd.

Yn ôl y golygydd, mae gwleidyddion wedi’u “gwahardd” rhag cyfrannu, gyda The New European yn ceisio apelio at bleidleiswyr Aros sy’n teimlo colled o adael mewn cyd-destun sydd ddim yn wleidyddol.

Mae’r papur wedi cyrraedd y silffoedd siopa yn gynt nag unrhyw bapur arall yn hanes, gan gael ei gynhyrchu o fewn naw diwrnod ers i’w sylfaenwyr feddwl am y syniad.

Roedd y papur wedi bwriadu cynhyrchu pedwar rhifyn, gydag unrhyw rifynnau eraill yn dibynnu ar werthiant.

Mae dau rifyn eisoes wedi bod, gan adael dau arall eto i ddod yng Nghymru.

“Cyfle clir”

Yn ôl Matt Kelly, golygydd The New European, dydy’r wasg draddodiadol ddim yn “gwasanaethu’r 48% a bleidleisiodd i Aros.”

“Mae ‘na gyfle clir am bapur newydd fel The New European y bydd pobol am ei ddarllen a’i gario gyda balchder,” meddai.

“Mae arbenigedd yn rhan o’n gwerthoedd ac mae gennym oreuon y byd yn eu meysydd yn ysgrifennu i ni.”

Roedd Matt Kelly’n arfer bod yn gyhoeddwr gyda’r Mirror Group Digital, sy’n cynnwys papurau fel y Daily Mail a’r Daily Mirror.

Ychwanegodd y bydd yn bapur gyda hiwmor sy’n “dathlu’r hyn roeddem yn ei garu am Ewrop yn y lle cyntaf.”

Mae’r papur yn cael ei gyhoeddi gan Archant, ac mae modd ei brynu ar-lein hefyd, gyda phob rhifyn yn £2 yr un.