Lesley Griffiths
Effaith canlyniad refferendwm Ewrop ar sectorau’r amgylchedd ac amaethyddiaeth oedd o dan y chwyddwydr wrth i Ysgrifennydd Cymru ar Faterion Gwledig a’r Amgylchedd, Lesley Griffiths gwrdd a Gweinidog Amaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon, Michelle McIlven, yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddoe.
Fe gytunodd y ddwy ei bod yn hanfodol bwysig bod y ddwy wlad yn cymryd rhan lawn yn y trafodaethau ar delerau’r Deyrnas Unedig ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Maen nhw’n awyddus i sicrhau nad yw eu cyfrifoldebau tros greu rhaglenni a pholisïau’n lleihau yn sgil canlyniad y refferendwm.
Galwodd y ddwy am sicrhau parhad cyllid domestig yn gyfnewid am golli arian Ewropeaidd, ac fe bwysleision nhw bwysigrwydd cadw mynediad at y Farchnad Sengl.
‘Ansicrwydd’
Dywedodd Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths bod canlyniad y refferendwm wedi “creu ansicrwydd”.
“Roedd y cyfarfod heddiw’n gyfle i drafod ein blaenoriaethau ar ôl Brexit a sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod y blaenoriaethau hynny’n ystyriaeth yn nhrafodaethau Llywodraeth y DU ar delerau ac amseriad gadael yr UE.
“Yr UE sydd wedi rhoi’r fframwaith ar gyfer cyllido a rheoleiddio amaethyddiaeth a’r amgylchedd ar draws y DU gyfan, yn ogystal â bod yn bwysig i’n cysylltiadau masnachu.
“Mae’n hanfodol felly ein bod yn chwarae ein rhan lawn fel gweinyddiaethau datganoledig i benderfynu ar sylfaen ein polisïau, rhaglenni a rheoliadau yn y dyfodol.”
‘Manteisio ar gyfleoedd’
Ychwanegodd Gweinidog Materion Gwledig Gogledd Iwerddon, Michelle McIlveen: “Rydym oll bellach yn gweithio yng nghyd-destun pleidlais y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd a’m prif flaenoriaeth yw sicrhau bod diwydiant bwyd-amaeth, cymunedau gwledig a rhanddeiliaid amgylcheddol Gogledd Iwerddon yn manteisio’n llawn ar y cyfle newydd hwn.
“Ond dw i ddim am wneud yn fach o’r cyfleoedd. Dyna pam dw i wedi ymrwymo i weithio gyda fy nghyd-weinidogion yn holl weinyddiaethau datganoledig y DU i sicrhau bod y sectorau da byw a chnydau yn parhau i gael eu helpu.
“Yn wir, gwnes i bwysleisio hynny wrth Weinidog DEFRA George Eustice pan wnaethom gwrdd ym Mrwsel ddechrau’r wythnos.”