Lynford Brewster (Llun: Heddlu'r De)
Mae trydydd dyn 23 oed wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn o Gaerdydd.

Bu farw Lynford Brewster, 29, o’i anafiadau ar ôl cael ei drywanu mewn digwyddiad yn Brynfedw, Llanedern ar ddydd Sul, 12 Mehefin.

Fe fydd Jake Whelan o Kidderminster yn mynd gerbron Llys Ynadon Caerdydd bore ma.

Mae dyn ddyn arall eisoes wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Lynford Brewster. Mae Dwayne Edgar, 29, o Lanedern, a Robert Lainsbury, 22, o Kidderminster yn cael eu cadw yn y ddalfa ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron Llys y Goron Caerdydd ar 5 Medi.

Mae teulu Lynford Brewster wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ac yn parhau i gael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.