Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae cwmni sydd bellach wedi mynd i’r wal, mewn dyled o bron i £2.6 miliwn i Lywodraeth Cymru ar ôl cael cefnogaeth ariannol o £3.4 miliwn ganddi.

Dyna y mae adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi’i ganfod wrth edrych ar y gefnogaeth roddodd Llywodraeth Cymru i gwmni gweithgynhyrchu Kancoat Cyf yn Abertawe.

Fe wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, gynnal yr adolygiad mewn ymateb i bryderon cafodd eu codi gan Kancoat ei hun.

Dydy’r adroddiad ddim yn ceisio dod i gasgliad ond mae wedi nodi’r “gwersi” sydd wedi cael eu dysgu gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn croesawu’r adroddiad a bod y penderfyniad i roi cefnogaeth ariannol i Kancoat, “wedi’i selio ar ragolygon y byddai ein cymorth yn helpu i greu dros 30 o swyddi dros dair blynedd.”

 

Ond ar ôl dwy flynedd, fe aeth Kancoat i’r wal ym mis Medi 2014, gan greu 12 o swyddi unig, yn hytrach na’r 33 oedd wedi cael eu rhagweld.

Golyga hyn bod y gost wirioneddol o ran pob swydd bron deirgwaith na’r hyn oedd Llywodraeth Cymru wedi’i ddisgwyl yn wreiddiol.

Benthyciadau

 

Cafodd Kancoat ei sefydlu fel cwmni cynhyrchu dur  yn Abertawe a chafodd fenthyciadau gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau isbrydles, prynu’r llinell haenu coil metel ac ail-ddechrau gweithgynhyrchu ar ôl cyfnod “anodd” o fasnachu.

 

Cafodd y  cwmni:

  • ·         Brydles o £1.4 miliwn;
  • ·         Cyllid Busnes i’w ad-dalu o £0.7 miliwn, a gafodd ei gynnig ar sail peidio ag ad-dalu;
  • ·         Benthyciadau masnachol o £1.3 miliwn.

Mae’r adroddiad yn nodi ei bod hi’n bosib y bydd y cwmni yn gallu gwerthu ei linell haenu yn y dyfodol, gan olygu mai £1.5 miliwn fydd yn ddyledus i bwrs y wlad.

Does ’na’r un cais wedi dod am y llinell hyd yn hyn ac mae perchnogion y parc diwydiannol Waunarlwydd, lle’r oedd y cwmni wedi’i sefydlu, wedi cyhoeddi eu bwriad i werthu.

 

Ond yn ôl yr adroddiad, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn dweud bod cwmni arall “uchel ei barch” wedi dangos diddordeb yn y gwaith ac yn y safle cyfan.

‘Gwersi wedi’u dysgu’

 

Noda’r adroddiad bod y Llywodraeth wedi cynnal ‘ymarfer gwersi a ddysgwyd’ pan aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr, a bod “nifer o welliannau wedi cael eu rhoi ar waith.”

 

Mae’r rhain yn cynnwys, cael argymhellion y Panel Buddsoddi cyn cymeradwyo unrhyw geisiadau am arian i fusnesau yn y dyfodol, a bod yn rhaid i’r Uwch Dîm Rheoli gadarnhau’r argymhellion hynny ar gyfer benthyciadau masnachol sy’n fwy na £1m.

 

Mae’r gwaith o fonitro benthyciadau bellach wedi symud i’r Tîm Monitro Canolog a phrotocol newydd wedi’i gytuno a’i sefydlu er mwyn gwella eglurder ar bwy sy’n gyfrifol am be’.

 

Bydd ymgeiswyr y dyfodol hefyd yn cael eu hasesu yn fwy trwyadl o ran eu gallu i ad-dalu ac mae dull gwell o asesu risg wedi’i sefydlu.

 

“Achos cymhleth”

 

“Roedd hwn yn achos cymhleth, ac mae’r adroddiad yn cydnabod hynny,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Fel rhan o’n hymrwymiad i wella o hyd, rydym yn adolygu ein gweithdrefnau yn gyson ac ers yr achos, rydym wedi rhoi nifer o newidiadau allweddol ar waith.”

Bydd yr adroddiad nawr yn cael ystyriaeth bellach gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol.