Caerdydd (llun: Jon Candy/CC2.0)
Yn ôl yr adroddiad diweddara’ ar werth economaidd Menter Caerdydd i’r brifddinas, fe wnaeth y fenter gyfrannu £1.9m i economi Caerdydd rhwng 2014 a 2015.

Ac yn yr un flwyddyn, fe wnaeth ei gŵyl flynyddol, Tafwyl, sydd  yn cael ei chynnal yng nghanol y ddinas yn y Castell, gynhyrchu gwerth economaidd anuniongyrchol o thua £1 miliwn.

Cafodd y gwaith ymchwil ei wneud gan gwmni Arad, wedi’i gomisiynu gan Fenter Caerdydd er mwyn profi ei gwerth am arian yn ystod cyfnod heriol yn ariannol.

Mae’r canfyddiadau, sydd hefyd yn dangos bod y fenter wedi buddsoddi £2.66 am bob punt o incwm a gafwyd, yn seiliedig ar y flwyddyn rhwng 2014 a 2015 yn unig.

Bydd y gwaith, ‘Asesiad o Werth Economaidd Menter Caerdydd i brifddinas Cymru’, yn cael ei lansio heddiw yn y Senedd, gyda’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies ac Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, Phil Bale.

Yn ôl y fenter, mae ei gwaith yn helpu Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd i weithredu polisïau yn ymwneud â’r Gymraeg.

Gwerth y Gymraeg

Mae’r adroddiad wedi cael croeso gan Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, sy’n dweud bod angen “cryfhau’r cysylltiad rhwng yr economi a’r iaith Gymraeg.”

Dywedodd Phil Bale, arweinydd cyngor y ddinas, y bydd yn parhau i weithio gyda Menter Caerdydd er mwyn “codi proffil y Gymraeg.”

“Mae Menter Caerdydd yn gwneud gwaith arbennig; yn arddangos y gorau o ddiwylliant Cymru, yn codi ymwybyddiaeth o’r iaith ac yn dangos bod y Gymraeg yn iaith fywiog a byrlymus yma ym mhrifddinas Cymru,” meddai.

“Mae’r cyngor wedi ymrwymo i godi proffil yr iaith Gymraeg ar draws y ddinas, a byddwn yn parhau i gyd-weithio gyda Menter Caerdydd a’n partneriaid eraill i wireddu ein gweledigaeth o Gaerdydd ddwyieithog.”