Yn dilyn y canlyniad Brexit fis diwetha’, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud heddiw bod angen ystyried beth mae hynny’n ei olygu i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Wrth bwysleisio bod pobol o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal yng Nghymru, yn gwneud ‘cyfraniad enfawr’ i’r wlad, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd bod “heriau sylweddol” yn wynebu’r gwasanaeth.

Mae’r heriau hyn yn ymwneud â chyllid, trwyddedu a meddyginiaethau newydd, yn ôl Vaughan Gething, yn sgil ‘ansicrwydd’ Brexit.

Mewn datganiad, mae e a’r Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, wedi dweud bod aelodau staff o’r UE yn rhai “gwerthfawr iawn”, gan geisio tawelu rhywfaint ar bryderon pobol ar ôl i Gymru bleidleisio i adael Ewrop.

Mae data’n dangos bod tua 6% o feddygon yng Nghymru wedi hyfforddi mewn gwlad arall o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae gennym staff o wledydd ar draws yr Undeb Ewropeaidd a phedwar ban byd yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd. Mae gen i barch mawr at bob un ohonyn nhw,” meddai Vaughan Gething.

“Mae eu cyfraniad i’n gwasanaeth yn enfawr a deallaf y gall canlyniad y refferendwm achosi rywfaint o bryder anochel am yr hyn mae’n ei olygu iddyn nhw a’u teuluoedd.”

 

Hiliaeth

Ychwanegodd i geisio ‘rhoi sicrwydd’ i aelodau staff sy’n pryderu – o’r UE neu rywle arall yn y byd –  na fyddai’r Gwasanaeth Iechyd yn goddef “unrhyw ffurf ar anoddefgarwch na chamwahaniaethu.”

Wythnos ar ôl i’r refferendwm ddigwydd, fe wnaeth yr heddlu ym Mhrydain gofnodi 331 o achosion o hiliaeth – pum gwaith yn fwy ‘na’r cyfartaledd wythnosol.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, yn dweud y dylai dinasyddion yr UE sy’n byw yng ngwledydd Prydain gael yr hawl i aros yma.

“Croeso arbennig” i staff o’r UE

Fe ddywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol bod staff o wledydd yr UE yn “gwbl hanfodol i weithrediad” y sector gofal cymdeithasol.

“Maent ymhlith y miloedd o unigolion sy’n cynnig gofal urddasol i unigolion ddydd ar ôl dydd. Maent yn rhan allweddol o’r system iechyd a gofal cymdeithasol integredig o’r safon uchaf rydyn ni wrthi’n ei datblygu,” meddai Rebecca Williams.

“Gadewch i mi fod yn gwbl glir, mae croeso arbennig o hyd i staff o wledydd yr Undeb Ewropeaidd – ac o bedwar ban byd – yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi.”