Owen Smith - am sefyll (Wykehamistwikipedian CCA 4.0)
Mae  Owen Smith wedi cadarnhau ei fod yn sefyll fel ymgeisydd i herio Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Roedd AS Pontypridd wedi dweud ei fod am siarad gyda’i etholwyr cyn cadarnhau ei fwriad.

Roedd wedi trydar ddydd Sul: “Nid ydw i’n fodlon sefyll o’r neilltu a gwylio ein plaid yn cael ei hollti.”

Yn ôl Smith, fe fyddai’n arweinydd “radical a chredadwy” a all arwain ei blaid i fuddugoliaeth mewn etholiad.

Dywedodd Smith wrth raglen Today ar BBC Radio 4 bod y penderfyniad cywir wedi cael ei wneud wrth alluogi Jeremy Corbyn i fynd am yr arweinyddiaeth yn awtomatig.

Ac fe gyhuddodd rai o aelodau asgell dde’r blaid o ymddwyn mewn ffordd a allai hollti’r blaid.

Dywedodd: “Byddaf yn sefyll yn yr etholiad hwn a byddaf yn gwneud y peth iawn a brwydro yn erbyn Jeremy Corbyn ar y materion, yn union fel y bydd e’n ei wneud â fi, ac ar ddiwedd hynny byddaf yn sefyll y tu ôl i bwy bynnag fydd yr arweinydd.

“Ond rwy’n gobeithio ac yn disgwyl mai fi fydd hwnnw.”

Ymddiswyddo

Fe ymddiswyddodd Owen Smith o gabinet yr wrthblaid ddiwedd mis Mehefin ar ôl i Jeremy Corbyn wrthod ildio’r awenau.

Mae cefnogwyr yr arweinydd yn honni ei fod ef ac aelodau seneddol blaenllaw eraill wedi bod yn cynllwynio i danseilio Jeremy Corbyn o’r dechrau.

Yn y cyfamser mae Angela Eagle wedi apelio ar gefnogwyr Llafur i “achub”  y blaid drwy bleidleisio o blaid cael gwared a Jeremy Corbyn.

Cyfnod anodd

Mae’r blaid yn wynebu cyfnod anodd sy’n bygwth hollti’r blaid ar ôl i’r arweinydd sicrhau ei le awtomatig yn y gystadleuaeth yn dilyn chwe awr o drafodaethau gyda Phwyllgor Gweithredol Cenedlaethol (NEC) y blaid.

Dywedodd Jeremy Corbyn y dylai ASau ddod at ei gilydd yn dilyn y penderfynuad i’w gynnwys yn awtomatig yn y gystadleuaeth. Mae’r penderfyniad yn mynd yn groes i fwyafrif ASau Llafur sydd am ei weld yn ildio’r awenau.

Ond mae Angela Eagle yn annog ei wrthwynebwyr i gymryd mantais o reolau sy’n golygu bod ganddyn nhw ddeuddydd wythnos nesaf i ddod yn gefnogwyr cofrestredig, sy’n caniatáu iddyn nhw bleidleisio, os ydyn nhw’n talu £25.

“Ymunwch a ni yn y frwydr, gadewch i ni ennill y Blaid Lafur yn ôl,” meddai ar Newsnight ar BBC 2.

Mae disgwyl i’r amserlen ar gyfer y gystadleuaeth gael ei chyhoeddi ddydd Iau ond mae adroddiadau’n awgrymu y gall barhau tan fis Medi.