Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dechrau ymchwiliad i lofruddiaeth yng Nghaerfyrddin ar ôl i ddyn 47 oed farw yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad difrifol mewn tŷ yng nghanol y dre’.

Bu farw Timothy Simon John ddydd Sadwrn yn dilyn yr ymosodiad ar 27 Mehefin, mewn eiddo yn Stryd Morgan.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys fod  yr ymchwiliad i’r digwyddiad bellach yn cael ei drin fel achos o lofruddiaeth.

“Mae ein meddyliau gyda’i deulu ar yr adeg drist hon,” ychwanegodd.

Dyn wedi bod yn y llys

Mae dyn 21 oed, Errol Richards, eisoes wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli ar 1 Gorffennaf, wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio.

Roedd hefyd wedi wynebu cyhuddiadau eraill o ymosod drwy guro, ymosod ar gwnstabl a thri bygythiad i ladd.

Roedd dyddiad ei achos llys nesa’ wedi’i bennu ar gyfer 1 Awst yn Llys y Goron Abertawe, ond gan fod y drosedd wedi newid, mae’n bosib y bydd y dyddiad yn newid.