Llun UEFA
Portiwgal 2 Cymru 0

Fe gafodd gobeithion Cymru eu tolcio’n ddrwg mewn deng munud ar ddechrau’r ail hanner.

Ronaldo yn colli Chester adeg cornel ac yn codi’n uwch na neb i benio’n gry’ i’r gornel ucha’ a, chyn i Gymru ddod atyn nhw eu hunain, Nani yn gwyro ergyd-groesiad gan Ronaldo i’r gornel isa’.

Am y tro cynta’, roedd rhaid i Gymru fentro wrth wynebu brwydr fawr i aros yn Ewro 2016 ond Portiwgal a gafodd y cyfleoedd gorau eto.

Hen Wlad fy Nhadau

Ar wahan i ambell ergyd o bell gan Gareth Bale, ddaeth Cymru ddim y wirioneddol agos, er iddyn nhw wthio Church, Vokes a Jonny Williams ymlaen.

Er gwaetha’r siom, roedd cefnogwyr Cymru’n dal i floeddio ac fe redodd chwaraewyr Cymru draw atyn nhw ar ddiwedd taith ryfeddol.

“Hen Wlad Fy Nhadau” oedd i’w chlywed wrth i’r 90 munud ddod i ben.Yr hanner cynta’

Doedd dim ynddi ar ddiwedd hanner cynta’ rownd gyn-derfynol Ewro 2016, gyda’r ddau dîm yn hanner bygwth ond heb fynd yn agos.

Fe ddaeth cyfleoedd gorau Cymru wrth i Gareth Bale a Hal Robson-Kanu guro dynion ar y dde ac Andy King ddwy waith bron â chyrraedd y croesiad.

Roedd yna ambell fflach arall gan Gareth Bale hefyd – gan gynnwys un rhediad hyd y cae – ond, ar y cyfan, roedd y ddwy ochr yn gyfartal iawn.

Cyfle i Ronaldo

Fe gafodd Cristian Ronaldo un cyfle da gyda’i ben wrth y postyn pella’ ym munud ola’r hanner ac fe fu’n rhaid i James Collins ei gofleidio unwaith wrth fynd am bêl yn y bocs ond, fel arall, fe lwyddodd amddiffynnwr mawr West Ham i gadw seren Portiwgal yn dawel.

Roedd y naill dîm a’r llall yn cael ychydig o funudau da ac wedyn yn gorfod amddiffyn ac roedd chwaraewyr fel Sanches a Mario yn dangos addewid i Portiwgal wrth gario’r bêl.

Chafodd y golwr, Wayne Hennessey, ddim un arbediad a dim ond un gafodd Patricio i Portiwgal.

Ar ddiwedd yr hanner, roedd y meddiant 52-48 i Gymru ond roedd y gêm yn nes na hynny.