M4
Mae grŵp o ymgyrchwyr amgylcheddol wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “ddweud celwyddau” ynglŷn â chyfradd tagfeydd yr M4.

Roedd byrddau gwybodaeth am gynllun yr M4 a fu’n ymweld ag ardaloedd o dde Cymru ym mis Medi’r llynedd yn nodi fod tagfeydd trwm yn broblem o gwmpas Casnewydd – gyda’r ffordd “95% yn llawn yn 2014”.

Ond, mae cais gan y Comisiynydd Gwybodaeth wedi datgelu fod tagfeydd ar rai o gyffyrdd yr M4 yr adeg hynny yn llawer is, gyda chofnod o 46% yn ystod cyfnodau brig.

“Dro ar ôl tro, mae Llywodraeth Cymru wedi’u dal yn dweud celwyddau wrth y cyhoedd ynglŷn â’r cynllun i adeiladu traffordd ddinistriol a drud ar draws ardaloedd lle mae bywyd gwyllt yn cael eu diogelu,” meddai Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.

‘Cynllun heb sail resymegol’

“Mae’r ffigurau hyn yn dystiolaeth galed fod y llywodraeth wedi mynd i raddau anarferol i dwyllo pobl Cymru er mwyn gwario mwy na £2 biliwn ar gynllun heb sail resymegol,” ychwanegodd Gareth Clubb.

Ddiwedd mis Mehefin, fe gyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwiliad cyhoeddus lleol i gynlluniau ffordd osgoi’r M4 yn yr hydref gan “edrych ar yr holl opsiynau.”

‘Camarweiniol’

Mewn ymateb i sylwadau Cyfeillion y Ddaear, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet ar Economi a Seilwaith:

“Mae honiad Cyfeillion y Ddaear yn gamarweiniol. Yr hyn nad ydyn nhw’n dweud ydy bod ein ffigurau ni yn dangos fod capasiti’r M4 yn nhwneli Brynglas yn 80%, ac yn codi ymhellach i 95% tua’r gorllewin tuag at gyffordd 28.

“Byddai prosiect yr M4 yn cael gwared â’r tagfeydd hyn, gan agor y porth tua’r de a gorllewin Cymru.”

Dywedodd Ken Skates y bydd Arolygydd Annibynnol yn archwilio “holl agweddau’r prosiect” yn ystod yr ymchwiliad cyhoeddus cyn cyrraedd penderfyniad.

“Ynghyd â gwelliannau isadeiledd i’r gogledd, canolbarth a gorllewin Cymru, mae prosiect yr M4 a’r Metro yn hollbwysig i’n gweledigaeth o system drafnidiaeth effeithiol ac integredig i Gymru.”