Mei Gwynedd yn Tesco Caergybi
Doedd siopwyr archfarchnad Tesco Caergybi neithiwr ddim yn disgwyl y bydden nhw’n dyst i lansiad cân Gymraeg newydd wrth fynd o gwmpas eu pethau.

Ond dyna ddigwyddodd wrth i’r cerddor Mei Gwynedd a chriw o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Bodedern ddechrau fflashmob yng nghanol yr archfarchnad.

“Roedd o’n dipyn o hwyl a dw i erioed wedi gwneud dim o’r fath o’r blaen,” meddai’r cerddor a arferai fod yn y band Sibrydion.

Esboniodd iddo gyfansoddi’r gân ar gyfer ymgyrch ‘Pethau Bychain’ Llywodraeth Cymru i annog mwy o bobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.

Fe fu’r cerddor ar daith ledled Cymru wedi hynny i hel syniadau  a’u recordio, gan ymweld â Chrymych, Llangefni, Abertawe a Llanelli yn eu tro.

‘Pethau bach yn medru mynd yn bell’
 

“Y neges ynddi am wn i ydy, os da ni gyd yn gwneud y pethau bychain fel dechrau sgyrsiau yn y Gymraeg, mae o’n mynd i wneud gwahaniaeth. Er enghraifft, os nad ydan ni’n dewis y botwm Cymraeg ar beiriannau tynnu arian mae’n beryg byddan nhw’n tynnu’r gwasanaeth,” meddai Mei Gwynedd.

“Mae’r pethau bach yn medru mynd yn bell, a gobeithio mai dechreuad i bethau fydd y gân hon.”

Mae’r gân ‘Pethau Bychain’ eisoes wedi’i dewis fel trac yr wythnos Radio Cymru, a bydd Roughion yn rhyddhau ailgymysgiad ohoni ar 31 Gorffennaf. Dyma ymateb siopwyr Caergybi neithiwr: