Cym On Gareth!
Fe fydd tref Caernarfon dan ei sang heno, yn ôl landlord un o dafarndai’r dref sy’n disgwyl i 3,000 dyrru yno i weld Cymru yn herio Gwlad Belg.
Dywedodd David Williams, rheolwr Neuadd y Farchnad: “Fe fydd y dref hon yn llawn i’r ymylon. Mae bob gêm hyd yn hyn yn yr Ewros wedi curo’r disgwyliadau. Mae bob tafarn wedi rhedeg allan o gwrw achos ein bod yn methu dal fyny efo’r galw. Mae yna fwy a mwy o bobl wedi bod yn dod bob tro.”
Ychwanegodd: “Dw i’n siŵr fod hanner Cymru heb gysgu neithiwr yn edrych ymlaen at y gêm. Mae gan bawb bili palas yn eu stumogau heddiw!”
Unig barth cefnogwyr y Gogledd
Mae trefnwyr unig barth cefnogwyr y gogledd, ym Mona ger Gwalchmai yn Ynys Môn, yn disgwyl torf sylweddol, fel yr eglurodd Sioned Prydderch McGuigan: “Mae yna lot o bobl wedi dangos diddordeb, rydan ni’n gobeithio cael 1,500 – ond mi ydan ni wastad yn cael mwy na’r arfer.”
Fe fydd chwe sgrin yn dangos y gêm yn y prif bafiliwn, gyda giatiau yn agor am chwech.
Parth cefnogwyr Caerdydd
Y pen arall i Gymru yng Nghaerdydd, fe fydd parth cefnogwyr y brif ddinas hefyd dan ei sang, fel yr eglurodd yr Aelod Cabinet dros ddiwylliant ar Gyngor Caerdydd, Peter Bradbury: “Mae Cymru’n arwain y ffordd gyda’u brwdfrydedd ar y bêl. Rydyn ni wedi agor Ardal Cefnogwyr ar gyfer holl gemau Cymru, ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Rwy’n siŵr y bydd yr awyrgylch yn drydanol unwaith eto, a hoffwn ddiolch i holl gefnogwyr Cymru am eu cefnogaeth barhaus ac ymddygiad da.”