Suzy Davies - galw am weithredu (Llun G360)
Mae llefarydd Ceidwadol wedi galw am “weddnewid strategaeth addysg Gymraeg” ar ôl tystiolaeth fod yr iaith yn colli tir yn ei hardaloedd cryfa’.

Mae ffigurau rhwng-Cyfrifiad gan awdurdodau lleol yn dangos gostyngiad yng nghanrannau siaradwyr Cymraeg  yng Ngheredigion, Gwynedd a Môn.

“Er mwyn atal y duedd hon, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weddnewid y strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg yn y byd addysg, gan helpu holl blant Cymru i allu cyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg o oedran cynnar, a’u hannog i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r byd addysg,” meddai Suzy Davies, llefarydd y Ceidwadwyr ar y Gymraeg yn y Cynulliad.

“Mae’n bosibl bod y ffigurau hyn yn dangos bod defnydd yr iaith o ddydd i ddydd yn lleihau mewn sawl rhan o Gymru. O ganlyniad, mae angen i Weinidogion Cymru amlinellu ar frys sut mae’n bwriadu ymateb.”

Y ffigurau

Mae’r ffigurau’n cymharu canran y siaradwyr Cymraeg tros 3 oed ym mhob sir yn 2016 a 2006.

Er fod cynnydd mewn rhai ardaloedd, roedd yna gwymp ym mhob un o’r tair sir lle mae’r Gymraeg gryfa’.

  • Yng Ngheredigion yr oedd y gostyngiad mwya’ – 4.8% i lawr i 53%.
  • Roedd cwymp o 3.7% yng Ngwynedd – i lawr i 70.5%
  • Dim ond 0.5% oedd y gostyngiad yn Ynys Môn – i lawr i 62.7%.