Stephen Crabb - chwe chefnogwr cyhoeddus hyd yn hyn (Llun Trwydded Llywodraeth Agored v1.0)
Dim ond chwech o gefnogwyr sydd gan yr aelod seneddol o Gymru, Stephen Crabb, hyd yn hyn yn ras arweinyddiaeth y Ceidwadwyr.

Mae asiantaeth newyddion y PA wedi bod yn cofnodi enwau’r ASau Ceidwadwyr sydd wedi datgan eu dewis ac mae hynny’n rhoi’r Ysgrifennydd Cartref ymhell ar y blaen.

Pedwerydd o bump yw Stephen Crabb, gyda dim ond un AS o Gymru, Craig Williams, yn ei gefnogi’n gyhoeddus hyd yma.

Mae dau AS o Gymru  – David Jones a Byron Davies – yn cefnogi Theresa May, sydd hefyd wedi cael cefnogaeth nifer fawr o ffigurau amlwg y blaid.

Leadsom yn arwain y Brexitwyr

Yr ail yn y ras, yn ôl PA, yw’r Gweinidog Ynni, Andrea Leadsom, ac fe allai ddod i gario baner y Brexitwyr.

Trydydd gydag wyth cefnogwr yw’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Michael Gove, ac mae’n ymddangos fod ei benderfyniad i droi cefn ar y cyn-ffefryn Borsi Johnson yn costio’n ddrud iddo.

Mae disgwyl y bydd Michael Gove yn gwneud ei araith fawr gynta’ yn yr ymgyrch yn ddiweddarach heddiw.