Beddau milwyr dienw'r Somme (Amanda Slater CCA2.0)
Mae digwyddiadau yng Nghymru i gofio canmlwyddiant dechrau’r ymladd ar y Somme, un o’r brwydrau gwaetha’ yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ymhlith y bobol ar ddechrau gwylnos yng Eglwys Gadeiriol Llandaf ac mae gwasanaeth awyr agored yng nghanol Caerdydd y bore yma.

Roedd gan y Cymry ran amlwg yn y frwydr, wrth geisio cipio Coedwig Mametz – testun un o gerddi mwya’r Rhyfel – In Parenthesis – gan y bardd a’r arlunydd o dras Cymreig, David Jones.

‘Ofnadwy eu hanghofio’

Yn ôl Archesgob Cymru, Barry Morgan, fe fyddai’n “ofnadwy” pe baen ni’n eu hanghofio nhw. “R’yn ni’n ddyledus iddyn nhw am ein rhyddid,” meddai.

Mae’r cofio heddiw’n cynnwys dwy funud o dawelwch ar yr union adeg gan mlynedd yn ôl y cafodd y gorchymyn  ei roi i’r dynion cynta’ adael y ffosydd a cheisio ymosod ar yr Almaenwyr.

Mae gwasanaethau ar droed yn Westminster yn Llundain hefyd.