Carwyn Jones Llun: PA
Dylid osgoi gweld Cymru fel “rhyw fath o annecs o Loegr”, yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, sydd wedi awgrymu trefniant ffederal i wledydd Prydain yn dilyn canlyniad y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Pleidleisiodd y mwyafrif o Gymry a Saeson i adael yr Undeb Ewropeaidd, tra bod yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi pleidleisio ar y cyfan i aros.

Dywedodd Carwyn Jones wrth BBC Cymru mai’r “peth diwethaf allwn ni wneud yw cael ein hystyried yn rhyw fath o annecs o Loegr”.

“Does dim rhaid cael annibyniaeth. Mae ffordd o sicrhau fod rhyw fath o ffederasiwn, neu ryw fath o gytundeb. Dyw hynny ddim yn meddwl fod rhaid cael annibyniaeth.”

‘Refferendwm newydd i Gymru’

Ond mae cyn-ymgynghorydd Llywodraeth Cymru wedi galw am gynnal refferendwm newydd i Gymru pe bai’r Alban yn penderfynu gadael y Deyrnas Unedig.

Yn ôl y Cynghorydd Llafur, Paul Griffiths, byddai gofyn i bobol Cymru os oes well ganddyn nhw fod mewn undeb â Lloegr neu gael Cymru ar wahân o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn newid pethau.

“Dydyn ni ddim yng Nghymru yn sylwi cymaint mae ein heconomi yn dibynnu ar farchnadoedd Ewropeaidd,” meddai Paul Griffiths wrth golwg360, wrth sôn am ei “rwystredigaeth” yn dilyn Brexit yr wythnos ddiwetha’.

“Mae’r cryfderau sydd gennym o fewn gweithgynhyrchu ac mae ‘na bryder y bydd y gweithgynhyrchwyr yn mynd rhywle arall os nad oes gennym fynediad i farchnadoedd Ewropeaidd.”

Pe bai’r Alban yn gadael, mae Paul Griffiths, oedd yn ymgynghorydd i gyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn credu y bydd barn y Cymry yn newid ac y byddai modd ymuno â’r UE eto dan Gymru ‘annibynnol’.

 

“Annibyniaeth”

Mae’n defnyddio dyfynodau’n wrth sôn am annibyniaeth yn bwrpasol yn ei flog, a hynny, fel mae’n awgrymu, am nad yw wir yn hoffi’r gair.

“Os ydy UKIP yn ei ddefnyddio (y gair annibynnol) ac os yw fy ffrindiau yn Plaid (Plaid Cymru) yn ei ddefnyddio, dw i’n dueddol o rowlio fy llygaid gan nad yw’r un wlad yn annibynnol yn y byd modern.

“Mae’n fater o ba fath o berthynas rydych yn creu gyda (gwledydd) eraill. Dwi’n meddwl mai’r dewis sydd gennym yw bod yn rhan o endid Lloegr a Chymru neu feithrin perthynas gyda gwledydd eraill yn Ewrop.”

Mae Paul Griffiths yn dweud ei fod yn credu bod pobol wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru “er mwyn cael newid”, yn enwedig yn ardaloedd y Cymoedd, fel Rhondda Cynon Taf, lle mae’n cynrychioli.

“Dwi’n meddwl mai’r meddylfryd oedd bod ‘unrhyw beth yn well na’r sefyllfa bresennol.’

Nid bai Llafur Cymru, sydd wedi bod mewn grym yng Nghymru ers 17 o flynyddoedd, yw hwn meddai, ond bai y “consensws neo-ryddfrydiaeth sydd wedi bodoli yn y byd gorllewinol ers y 1980au.”

Doedd e ddim yn fodlon chwaith gyda’r awgrym bod Cymru’n tyfu’n fwy asgell dde, gan ddweud bod y bleidlais Brexit yn un o “rwystredigaeth” ac nid un oedd yn dangos tueddiadau asgell dde.

 

Llafur i gefnogi annibyniaeth?

Roedd yn credu hefyd os byddai refferendwm arall yn cael ei chynnal yn yr Alban y byddai Llafur yr Alban yn cefnogi gadael y Deyrnas Unedig.

“Os bydd hynny’n digwydd yn yr Alban, yna dylwn ni yng Nghymru fod yn barod i ystyried llwybr tebyg,” meddai, gan ychwanegu y byddai angen gweithio gydag “amrywiaeth o bleidiau” Cymru i wneud hyn.

“Os byddwn yn gallu cadw’r Ceidwadwyr Cymreig a UKIP Cymru allan ohoni, yna byddai hynny’n dda hefyd.

Ond rhaid bod yn bwyllog hefyd, ac mae Paul Griffiths yn dal i gredu y “dylwn ni gyd fod yn ofni’r gair annibyniaeth.”

“Mae’n gallu, fel y gwnaethom weld gyda UKIP, troi’n senoffobia mewnblyg, felly mae’n rhaid i ni ddod o hyd i iaith sy’n siarad am y dewisiadau y gallwn wneud wrth greu cyd-ddibyniaeth, nid annibyniaeth.”