Bannau Brycheiniog
Mae grŵp o 20 o blant ysgol ar goll ym Mannau Brycheiniog ym Mhowys prynhawn ma.

Yn ôl timau achub mynydd y Bannau, fe gawson nhw eu galw tua 1 o’r gloch prynhawn dydd Mercher.

Mae’r heddlu a hofrennydd yr Awyrlu yn Sain Tathan wedi ymuno a’r chwilio ger ardal  Dan yr Ogof.

Mae lle i gredu bod yr awdurdodau’n gwybod lle mae’r plant, sy’n dod o Loegr ac yn eu harddegau, ond nad yw’r hofrennydd wedi gallu glanio oherwydd y tywydd.  Yn ol y timau achub mynydd, maen nhw’n ceisio cyrraedd y plant ar droed.

Mae’n debyg bod dau o’r plant yn dioddef o effeithiau’r oerfel.

Fe fu’r timau achub mewn cyswllt ffôn achlysurol gyda’r criw sy’n cwblhau gweithgareddau fel rhan o Wobr Dug Caeredin. Mae’r plant mewn pedwar grŵp o chwech ac mae’n debyg nad oes oedolyn gyda nhw.

Mae’r dafarn leol, Tafarn y Garreg, yn cael ei defnyddio fel cyrchfan ar gyfer y timau achub ac maen nhw’n paratoi diodydd poeth ar gyfer y plant pan fyddan nhw’n dychwelyd.