Mae Jeremy Smith wedi ymddiheuro am ei sylwadau ar Twitter
Mae sylw un o brif swyddogion RWE Innogy UK yn sgil canlyniad Brexit wedi ennyn ymateb chwyrn wedi iddo ddweud ar Twitter fod Cymru yn “bloryn ar ben-ôl Lloegr.”

Un sydd wedi’i gythruddo’n fawr gan sylwadau Jeremy Smith, Pennaeth Datblygiadau Strategol y cwmni, yw’r Cynghorydd lleol Ioan Richard sy’n cynrychioli ward Mawr yn Abertawe.

Mae’r Cynghorydd yn un o nifer sydd wedi bod yn brwydro yn erbyn cynlluniau RWE Innogy UK i godi fferm wynt ar Fynydd y Gwair, Abertawe.

“Mae’n fy ngwneud i’n grac bod y rhain yn ceisio dinistrio tirwedd ein hardal ac wedyn yn dweud pethau fel yma amdanom ni,” meddai Ioan Richard wrth Golwg360.

Targedu ‘ar sail hil’

“Mae gweld y Pennaeth yma’n rhoi neges o’r fath ar Twitter wedi ein gwylltio ni – mae e wedi’n targedu ni fel Cymry ar sail hil,” meddai Ioan Richard.

Dywedodd y Cynghorydd ei fod wedi cyfeirio neges Jeremy Smith a neges arall wnaeth ail-drydar am sefyllfa ariannol Cymru at adran gasineb hiliol yr heddlu, gan ddweud eu bod nhw’n ymchwilio i’r sylwadau.

Bellach, mae Jeremy Smith wedi ymddiheuro am ei sylwadau ar Twitter wrth iddo ymateb i #brexitin5words gan ddweud eu bod yn “sylwadau personol, oedd yn anghywir”.

Mae bellach wedi dileu’r neges o’i gyfrif Twitter.

‘Brwydr David a Goliath’

Ar hyn o bryd mae trydydd adroddiad yn cael ei lunio gan Arolygydd Cynllunio Annibynnol i benderfynu a ddylai RWE Innogy UK gael yr hawl i godi 16 o dyrbinau ar dir comin Mynydd y Gwair ai peidio.

“Mae wedi bod fel brwydr David a Goliath i lawr fan hyn,” meddai Ioan Richard gan esbonio fod y frwydr wedi para am fwy nag 20 mlynedd.

“Mae Mynydd y Gwair yn dir comin pwysig ac yn allweddol i ffermwyr mynydd lleol. Ac mae’r cwmni yma’n cerdded drosom ni, a dydyn nhw ddim yn deall ein traddodiadau ni.”