Ifan Morgan Jones
Yn ôl grŵp ymgyrchu newydd mae annibyniaeth i Gymru bellach yn “hanfodol” yn dilyn canlyniad Brexit yn y refferendwm, er mai gadael oedd dymuniad Cymru hefyd.

Yn ôl Cymru Rydd yn Ewrop doedd dim cyd-destun Cymreig yn y sgwrs cyn y bleidlais, ac felly doedd pobol ddim wir yn ymwybodol o oblygiadau pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r ymgyrchwyr yn trefnu rali dros annibyniaeth i Gymru o fewn Ewrop ar y Maes yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn.

Er bod y grŵp yn “parchu’r” bleidlais, maen nhw’n credu bod angen gwthio agenda annibyniaeth i Gymru a hynny am fod Cymru’n well o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

“Esgeulustod” San Steffan

“Esgeulustod” San Steffan ac nid yr UE sy’n gyfrifol am dlodi Cymru, ac mae’r grŵp yn dadlau y byddai’r wlad yn gryfach o aros yn y farchnad sengl.

“Mae buddsoddiad anferth wedi bod yng Nghymru (o’r UE) fel un o ardaloedd tlotaf gorllewin Ewrop,” meddai Ifan Morgan Jones, un o’r ymgyrchwyr.

“Rydan ni wedi cael rhywbeth fel £4 biliwn ers y flwyddyn 2000, felly dwi’n meddwl o gyflwyno’r ddadl yn y cyd-destun Cymreig, dwi’n meddwl fydda’ lot mwy o gefnogaeth dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.”

Newid meddyliau

Dywedodd y bydd llawer o bobol oedd am adael yn newid eu meddyliau wrth i wleidyddion “ddechrau mynd yn ôl ar eu haddewidion” fel rhoi arian i’r Gwasanaeth Iechyd a rhyddid pobol i symud o fewn yr UE.

Er nad oes ‘na sicrwydd y bydd Cymru yn cael ymuno â’r Undeb Ewropeaidd eto pe bai’n dod yn annibynnol, mae Ifan Morgan Jones yn dweud mai pwynt eu hymgyrch nhw yw casglu “brwdfrydedd” gyda’r nod hwnnw.

“Yn yr un ffordd â’r Alban, maen nhw’n trafod â’r Undeb Ewropeaidd ynglŷn ag aros ac os allwn ni feithrin diddordeb am aros yma yng Nghymru, dyna y dylwn ni ei wneud hefyd,” meddai.

Mynd â’r neges dros y wlad

Mae dros 1,000 o bobol wedi hoffi tudalen Facebook y grŵp hyd yn hyn, a bwriad yr ymgyrchwyr yw cynnal sgwrs ledled Cymru am le’r wlad o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

“Y math o bobol sy’n mynd i gefnogi hwn mewn gwirionedd yw’r math o bobol a wnaeth bleidleisio allan, y bobol yna efallai yn y Cymoedd sy’n teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso gan y wladwriaeth ac oedd yn fodlon pleidleisio i roi trwyn gwaed i’r wladwriaeth.”

“Dyna’r math o bobol rydan ni angen mynd â’r ddadl atyn nhw, does ‘na ddim pwynt dal dig a’u dirmygu nhw.

“Mi wnaethon nhw bleidleisio allan ac mae’n rhaid i ni barchu hwnna ond hefyd mae’n rhaid i ni argyhoeddi nhw mai beth sydd orau iddyn nhw yw Cymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd.”

Mae rali Cymru Rydd yn Ewrop yn digwydd am 12 o’r gloch, dydd Sadwrn yma (2 Gorffennaf).