Carwyn Jones
Mae’n amser i Gymru uno ac ystyried y dyfodol yn ofalus, yn ôl y Prif Weinidog yn dilyn canlyniad Brexit.

Wrth siarad ar ôl i 52.5% o Gymry bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd Carwyn Jones ei fod am sicrhau y bydd Cymru’n “rhan lawn” o drafodaethau San Steffan wrth ddechrau tynnu allan.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn “siomedig iawn” gyda’r canlyniad, ond ei fod yn benderfynol o barhau i wasanaethau “Cymru gyfan” fodd bynnag.

Wrth siarad y bore yma, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd wedi’i argyhoeddi y dylai’r refferendwm fod wedi cael ei chynnal yn y lle cyntaf, am ei bod mor agos i etholiadau’r Cynulliad.

“Ond mae penderfyniad wedi cael ei wneud, a rhaid i ni barchu hynny,” meddai.

‘Amser am ymateb pwyllog’

“Dyma’r amser i Gymru uno ac ystyried y dyfodol yn ofalus,” meddai Carwyn Jones.

“Hyd yn oed cyn y bleidlais ddoe, dywedais nad oedd gan yr un blaid fonopoli ar syniadau da, a nawr yn fwy na byth, rhaid i ni ddibynnu ar allu pawb.

“Mae pobol wedi dangos angerdd yn ystod y ddadl, dw i’n cydnabod hynny, ond nawr mae’n amser i ymateb yn bwyllog, yn hytrach nag yn ddifeddwl.

“Bydd llawer ohonom yn pryderu dros y gwenwyn a ddaeth i’r ymgyrch – fydd hyn ddim yn ein helpu gyda’r heriau sylweddol rydym i gyd yn eu hwynebu.”

Pobol wedi eu ‘dieithrio’ o wleidyddiaeth

Roedd y rhan fwyaf o gymunedau tlotaf Cymru – a gweddill Prydain – wedi pleidleisio i adael yr Undeb a dywedodd Carwyn Jones ei fod yn rhy gynnar i ddadansoddi’r rhesymau tros hynny.

Ond roedd yn cydnabod bod gormod o bobol o gymunedau difreintiedig yn “teimlo bod gwleidyddiaeth, a’n economi, wedi’u gadael ar ôl”.

“Mae gennym her go iawn i ddadwneud y teimlad o ddieithrio hwnnw.

“Er budd ein gwlad a’n cenedl a’i dyfodol, rhaid i ni ddod at ein gilydd a chwrdd â’r heriau sy’n ein hwynebu.”

Blaenoriaethau – diwygio Barnett

Bydd cyfarfod o Gabinet Llywodraeth Cymru fore Llun, ac yn ôl y Prif Weinidog, mae ganddo chwe “blaenoriaeth brys” wrth i’r wlad wynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r rhain yn cynnwys diogelu swyddi, chwarae rhan lawn mewn trafodaethau ar adael yr UE, cael mynediad i’r Farchnad Sengl a chadw’r rhyddid i symud o fewn yr Undeb.

Dywedodd hefyd fod “achos aruthrol” dros ddiwygio Fformiwla Barnett – y drefn o gyllido Cymru –  a’i fod yn awyddus i gadw Cymru’n rhan o raglenni fel y CAP dros amaethyddiaeth a Chronfeydd Strwythurol hyd at ddiwedd 2020.

Mae Brexit hefyd yn golygu “newid cyfansoddiadol anferthol” i’r DU a datganoli, meddai, gan alw am newid telerau datganoli i wledydd datganoledig ynysoedd Prydain.