Alec Warburton
Mae dyn o Abertawe wedi’i gael yn euog o lofruddio’i landlord yn Abertawe.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod David Ellis wedi ymosod ar Alec Warburton gyda morthwyl yn ei gartref yn Heol Vivian, Sgeti fis Awst y llynedd cyn gyrru i hen chwarel yn Nolwyddelan i gael gwared a’i gorff.

Ffrae tros rent oedd wedi arwain at yr ymosodiad, meddai Ellis yn ystod yr achos llys, ac fe glywodd y llys hefyd fod Ellis wedi cynllwynio i ddwyn arian oddi ar denantiaid eraill drwy esgus bod Warburton wedi gadael nodyn yn gofyn am eu rhent.

Roedd Ellis eisoes wedi cyfaddef dynladdiad ei landlord, gan ddweud ei fod e “wedi colli rheolaeth” ar ôl i Alec Warburton ofyn am “ffafrau rhywiol” yn lle arian am rent.

Ond fe wadodd iddo’i lofruddio.

‘Cyfrwys’ 

Fodd bynnag, fe gafwyd Ellis yn euog o lofruddiaeth ar ôl i’r rheithgor glywed ei fod yn ddyn “cyfrwys” oedd yn “manipiwleiddio” ac yn “dwyllodrus”.

Cafodd Alec Warburton ei weld yn fyw ddydd Iau, Gorffennaf 30 y llynedd pan aeth i ganol dinas Abertawe ar gyfer apwyntiad gyda’i optegydd.

Ond y prynhawn hwnnw, clywodd y llys fod Ellis wedi ymosod arno cyn ceisio glanhau’r tŷ.

Ar Awst 1, cafodd corff Alec Warburton ei orchuddio mewn dillad gwely cyn cael ei roi yng nghist car Ellis a’i yrru i Ddolwyddelan, lle’r oedd Ellis wedi treulio rhan o’i blentyndod.

Cafodd y morthwyl ei daflu i’r môr yn Llandudno, ac fe yrrodd Ellis yn ôl i Abertawe’r diwrnod canlynol ar ôl cael gwared ar ei ddillad.

Ar ôl i frawd Alec Warburton gysylltu â’r heddlu i fynegi pryder gan nad oedd e wedi gweld ei frawd ers peth amser, dywedodd Ellis wrth yr heddlu yn y tŷ nad oedd e wedi gweld ei landlord ers rhai diwrnodau a’i fod yn credu ei fod e wedi mynd i ffwrdd.

Ar Awst 3, casglodd Ellis rent gan y tenantiaid eraill cyn chwilio ar gyfrifiadur yn Llyfrgell Abertawe am amserlen ar gyfer fferi o Lerpwl i Belfast ar y diwrnod canlynol.

Ar ôl cael ei holi gan yr heddlu unwaith eto, dywedodd Ellis fod Alec Warburton yn iawn y tro diwethaf iddo’i weld.

Ar Awst 5, gyrrodd Ellis i Lerpwl yng nghar Alec Warburton a phrynu tocyn i fynd i Ogledd Iwerddon.

Aeth oddi yno i Weriniaeth Iwerddon cyn bwcio ystafell wely a brecwast o dan ffugenw, ac fe gafodd waith dros dro yn y ddinas.

Cafodd ei arestio ar Fedi 18 cyn dweud wrth yr heddlu lle’r oedd corff Alec Warburton.

Daeth Heddlu’r Gogledd o hyd i’w gorff ddeuddydd yn ddiweddarach.