Elin Jones, Llywydd y Cynulliad
Fe fydd Aelodau Cynulliad yn ethol cadeiryddion pwyllgorau’r Cynulliad drwy bleidlais gudd, fe gyhoeddwyd heddiw.

Mae hwn yn newid sylweddol o’i gymharu â’r Cynulliad blaenorol, meddai’r Llywydd, Elin Jones AC.

Dywedodd y byddai’r cam yn rhoi mandad i’r Cadeiryddion ac aelodau’r pwyllgorau ddatblygu eu rhaglenni gwaith yn annibynnol gan gryfhau eu gallu i gynrychioli pobl Cymru a’u buddiannau ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

‘Trin ACau’n gyfartal’

Dywedodd Elin Jones: “Mae penderfyniad y Pwyllgor Busnes i ganiatáu pleidlais gudd i ethol Cadeiryddion yn cyd-fynd â’m haddewid fel Llywydd i ddiogelu buddiannau holl Aelodau’r Cynulliad a’u trin i gyd yn gyfartal.

“Mae’r penderfyniad yn dangos ymrwymiad y Pwyllgor Busnes i gynnal yr egwyddor honno, ond hefyd ei fwriad i fynd ar drywydd diwygiadau gweithdrefnol lle bo angen er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn cael y ddemocratiaeth y maent yn galw amdani ac yn ei haeddu.”