Mae ymgyrchwyr yn pryderu am yr effaith y gallai pleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd ei chael ar y Gymraeg.
Mae’r Gymraeg yn elwa llawer o gydweithio rhwng cefnogwyr ieithoedd lleiafrifol ar draws Ewrop, meddai Dyfodol i’r Iaith.
Yn ôl y mudiad, mae Senedd Ewrop yn cynnig llwyfan pwysig ar gyfer “cydweithio gwleidyddol er lles y Gymraeg”, gan dynnu sylw at gynyddu statws y Gymraeg y tu fewn i sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd yn ddiweddar.
Yn ogystal, maen nhw’n tynnu sylw at y ffaith fod Cyngor Ewrop yn hyrwyddo Siarter Ewrop dros Ieithoedd Lleiafrifol a Rhanbarth, sy’n gosod dyletswydd ar y DU i hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg ac ieithoedd brodorol eraill gwledydd Prydain.
‘Posibiliadau cyffrous’
Mewn datganiad, dywed Dyfodol i’r Iaith: “Mae cydweithio agosach rhwng yr Undeb a Chyngor Ewrop yn digwydd ac mae hyn yn cynnig posibiliadau cyffrous o ran cynyddu eto fyth statws y Gymraeg.
“Os bydd y DU yn gadael y Gymuned Ewropeaidd mae perygl i’r posibiliadau hynny fynd ar goll.”
Ychwanegodd fod diffyg eglurder ynghylch natur y berthynas rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd wedi’r refferendwm ar Fehefin 23 yn “bryder mawr”.