David Williams - 'wrth ei fodd'
Mae dyn o Gaerfyrddin wedi cael ei wobrwyo gan Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, am ei ran yn rhai o ddigwyddiadau mawr yr Ail Ryfel Byd.

Cafodd David Williams, 97, o Fancyfelin, ei wneud yn Farchog yn y L’Ordre National de la Légion d’Honneur, am helpu i amddiffyn a rhyddhau Ffrainc.

Ac yntau’n filwr ym Myddin Ymgyrchol Brydain, roedd yn un o’r rhai a gafodd eu hachub o Dunquerque yn 1940 cyn cymryd rhan yn y cyrch tyngedfennol i ryddhau’r wlad yn 1944.

Ar ôl hynny, ei gyfrifoldeb oedd mynd â thanciau Churchill 40 tunnell i’r llinellau blaen, oedd yn cynnwys llwytho tanciau mewn amgylchiadau a lleoliadau peryglus, a’u gyrru i frwydrau ledled Ffrainc.

“Barod i beryglu eich bywyd”

Am ei waith, mae’n cael arfbais a medal, gyda llythyr yn cydnabod ei ran yn y frwydr i ryddhau Ffrainc.

“Rydym yn ddyledus am ein diogelwch a’n rhyddid i’ch ymrwymiad chi am eich bod yn barod i beryglu eich bywyd eich hun,” meddai’r llythyr.

Dywedodd David Williams fod y wobr yn un i’w gyfeillion yn y rhyfel hefyd a gollodd eu bywydau.

“Rwyf wrth fy modd gyda’r anrhydedd eithriadol hon. Mae wedi dod â llawer o atgofion yn ôl,” meddai.

“Yn ystod y rhyfel, collais gyfeillion da, a dwi’n teimlo bod y wobr hon yn eu hanrhydeddu nhw hefyd.”

Gwasanaeth arbennig

Bydd yn derbyn ei wobr gan is-gennad anrhydeddus Ffrainc yng Nghymru, Mme Marie Brousseau-Navarro, mewn gwasanaeth i goffáu’r Diwrnod Gwasanaethau Arfog yn Eglwys Fair Magdalen, San Clêr, ar 26 Mehefin.