Neil Kinnock - llythyr swyddogol (Dushenka CCA 2.0)
Mae’r cyn-arweinydd Llafur, Neil Kinnock, wedi datgelu ei fod wedi ysgrifennu llythyr cwyn swyddogol at Gymdeithas Bêl-droed Ewrop ar ôl i Gymru gael cam mewn pencampwriaeth fawr union 40 mlynedd cyn pencampwriaeth Ewro 2016 eleni.

Mae wedi dweud wrth Radio 5 ei fod wedi gwylltio’n lân tros berfformiad y dyfarnwr sy’n dal i gael y bai am fod Cymru wedi colli gêm dyngedfennol.

“Ro’n i’n teimlo mor gry’ am y peth fel fy mod wedi sgrifennu at gymdeithas UEFA – llythyr ffurfiol iawn ar bapur Tŷ’r Cyffredin, yn dweud bod perfformiad y dyfarnwr a’r diffyg cosb arno wedi dwyn anfri ar y gêm,” meddai Neil Kinnock.

Ac fe gadarnhaodd ei fod yn dal i aros am ateb.

Y cefndir

Gêm yn erbyn Yugoslavia oedd hi yn rownd wyth ola’ Pencampwriaeth Ewrop – yr un gystadleuaeth ag y mae Cymru’n dechrau chwarae ynddi fory.

Ar y pryd, doedd dim twrnamaint arbennig ar gyfer y rowndiau ola’ ac felly roedd Cymru’n chwarae yn erbyn y wlad Gomiwnyddol ym Mharc Ninian, Caerdydd.

Roedd angen i Gymru ennill o dair gôl ac roedd y dyfarnwr, Rudi Glocknker, wedi gwrthod dwy gôl gan Gymru ac wedi rhoi cic gosb amheus iawn i Yugoslavia.

Yn ôl y stori, roedd Glocknker, o wlad Gomiwnyddol Dwyrain yr Almaen, wedi gwylltio’n lân ar ôl i Gymdeithas Pêl-droed Cymru godi baner Gorllewin yr Almaen trwy gamgymeriad.

  • Mike Smith oedd rheolwr tîm Cymru ar y pryd ac roedd y sêr yn cynnwys John Toshack, Terry Yorath, Arfon Griffiths a Bryan Flynn.