Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru Llun: PA
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud nad yw’n “gorddatganiad” i ddweud bod y refferendwm i aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn “foment hanesyddol” i Gymru.

Gwnaeth Carwyn Jones ei sylw mewn araith heno ar Gampws Bae Prifysgol Abertawe wrth amlinellu’r achos dros Gymru a’r DU i aros yn yr UE.

Meddai hefyd y bydd y dewis fydd yn cael ei wneud gan bleidleiswyr yn cael “effaith fawr ar yr economi, cymunedau a phobl Cymru” am genhedlaeth a mwy.

Ychwanegodd ei fod yn credu bod y refferendwm yn bwysicach i Gymru na refferendwm 1997.

Manteision

 

Yn ei araith, dywedodd Carwyn Jones bod yr hawliau sydd gan weithiwyr o ganlyniad i aelodaeth Prydain o’r UE ac meddai bod aros yn rhan o’r UE yn hollbwysig i economi Cymru.

Tynnodd sylw at sut mae gweithwyr Cymru yn elwa o 28 diwrnod o absenoldeb â thâl yn y gwaith, diolch i’r UE a bod 70,000 o bobl wedi cael help i ddarganfod swyddi trwy fuddsoddiad yr UE.

Dywedodd hefyd fod Cymru’n debygol o dderbyn £1.9 biliwn o fuddsoddiad strwythurol gan Frwsel rhwng 2014 ac 2020.

Meddai y bydd £150 miliwn o’r arian hynny’n mynd at greu gwasanaeth Metro newydd yn ne Cymru  ac y byddai £85 miliwn yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio ffyrdd yr A55 yn y gogledd a’r A40 yn y de.

Dim gwarant o arian fel arall

 

Mewn araith di-flewyn ar dafod, awgrymodd y Prif Weinidog mai “ffantasi peryglus” yw dadl ymgyrchwyr dros adael y byddai’r arian hwn yn cael ei ddidoli o San Steffan petai’r DU yn gadael yr UE.

Dywedodd y byddai’n debygol y byddai’r arian yn “mynd ar goll yn y post rhwng Cymru a Lloegr” a siaradodd am ei brofiad personol yn ceisio cael arian ychwanegol gan Lywodraeth San Steffan i Gymru.

Meddai: “Rwy’ wedi treulio bron i 7 mlynedd fel Prif Weinidog Cymru, ac mae bron pob un ohonynt, yn anffodus, wedi bod gyda Llywodraeth Dorïaidd ar ben arall yr M4.

“Mae ceisio cael ceiniog arall gan y Trysorlys yn yr amser hwnnw wedi bod fel ceisio cael gwaed allan o garreg. Mae Cymru wedi gweld ei chyllideb yn cael ei dorri dro ar ôl tro.

“Mae’r UE yn rhwyd diogelwch i ni i gyd a dylai bawb sy’n gwerthfawrogi amaethyddiaeth, prentisiaethau a swyddi gwell fod yn realistig am hyn.”

Y ddadl yn gallu mynd ar goll

Ac er ei fod yn cyfaddef bod gwleidyddion, ar adegau, yn gallu gwneud y drafodaeth yn rhy “haniaethol” a bod y ddadl i aros yn yr UE yn aml yn cael ei golli “mewn niwl o rifau ac ystadegau”, yn ei hanfod, meddai, mae dewis sylfaenol am “le Cymru yn y byd.”

Dywedodd Carwyn Jones: “Dim ond drwy gydweithio y gallwn obeithio datblygu’r atebion a’r ddealltwriaeth gyffredin a fydd yn ein galluogi i adeiladu’r gymdeithas ry’n ni i gyd am ei gweld.

Heb sôn am yr effaith negyddol y byddai gadael yn ei gael ar economi Cymru.

“A dyna pam y byddaf yn pleidleisio i aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ar ddydd Iau, 23 Mehefin.”