Mae Canolfan y Mileniwm yn un o'r adeiladau fydd yn cael ei oleuo'n goch
Fe fydd rhai o adeiladau a chestyll mwyaf Cymru’n cael eu goleuo’n goch i ddatgan cefnogaeth y genedl i dîm pêl-droed Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016 yn Ffrainc, sy’n dechrau’r wythnos hon.

Cafodd y manylion eu cadarnhau gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

Ymhlith yr adeiladau fydd yn cael eu goleuo mae Canolfan y Mileniwm a’r Senedd, ynghyd â nifer o gestyll.

Dyma’r tro cyntaf i Gymru gymhwyso ar gyfer un o’r prif gystadlaethau ers 58 o flynyddoedd.

Bydd ymgyrch Cymru’n dechrau yn Bordeaux ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw herio Slofacia.

‘Adeg gyffrous’

Mewn datganiad, dywedodd Ken Skates: “Mae hon yn adeg ardderchog i fod yn gefnogwr tîm pêl-droed Cymru ac yn adeg gyffrous i fod yn Weinidog Cabinet ar gyfer digwyddiadau mawr a chwaraeon elitaidd.

“Pencampwriaeth Ewrop yw un o’r digwyddiadau chwaraeon uchaf ei broffil ar draws  y byd. Mae bron 2 biliwn o bobl ledled y byd yn gwylio’r bencampwriaeth ac rydym mor falch bod Cymru’n rhan ohoni o’r diwedd.”

Bydd yr adeiladau’n cael eu goleuo am y tro cyntaf ar 10 Mehefin, sef y noson cyn gêm gyntaf Cymru yn erbyn Slofacia, a byddant yn parhau i gael eu goleuo drwy gydol cyfnod gemau’r grwpiau a chyhyd ag y bydd Cymru yn chwarae yn y bencampwriaeth.

‘Dathlu camp enfawr’ 

Ychwanegodd Ken Skates: “Mae chwaraewyr Cymru ynghyd â’r cefnogwyr a’r rheolwyr wir wedi mynd ati i roi’r slogan Gorau Chwarae Cyd Chwarae ar waith a gallwn ni i gyd ymfalchïo yn eu llwyddiant.

“Mae goleuo’r cestyll yn un enghraifft o’r modd y mae’r genedl yn dathlu’r gamp enfawr hon ac yn cefnogi’r tîm wrth iddo symud yn ei flaen fesul cam yn y gystadleuaeth.

“Mae yna ymdeimlad gwirioneddol mai dim ond y dechrau i’r tîm talentog hwn o Gymru oedd ennill ei le yn y bencampwriaeth. Edrychaf ymlaen at eu gweld yn rhedeg allan i’r cae yn Bordeaux a chynrychioli Cymru ar lwyfan y byd.”

Yn ychwanegol at y goleuadau, pe bai Cymru’n cyrraedd rownd yr 16 olaf, fe fydd Llywodraeth Cymru’n rhoi’r hawl i bobol gael mynediad am ddim i safleoedd Cadw ar ddydd Sul, Mehefin 26.

Y lleoliadau fydd yn cael eu goleuo:

  • Castell Biwmares
  • Castell Caernarfon
  • Castell Caerffili
  • Castell Coch
  • Castell Cas-gwent
  • Castell Conwy
  • Castell Coety
  • Castell Cricieth
  • Castell Dinbych
  • Castell Harlech
  • Castell Cydweli
  • Castell Llansteffan
  • Abaty Tyndyrn