Cheryl James
Mae Crwner wedi dyfarnu na chafodd Cheryl James ei lladd yn anghyfreithlon ym maracs y fyddin yn Deepcut.

Bu farw’r milwr dan hyfforddiant yn 18 oed o fwled i’w phen tra’r oedd ar ddyletswydd yn gwarchod y safle hyfforddi yn Surrey yn 1995 – un o bedwar recriwt i farw yno dros gyfnod o saith mlynedd.

Heddiw, wedi cwest yn para tri mis, dywedodd y Crwner Brian Barker ei fod yn fodlon nad oedd unrhyw dystiolaeth bod Cheryl James wedi ei lladd yn groes i’r gyfraith.

Mae cwest newydd wedi ei gynnal i’w marwolaeth wedi i farnwyr yr Uchel Lys ddweud nad oedd rheithfarn agored y cwest gwreiddiol yn 1995 yn gadarn.

Heddiw fe ddywedodd y Crwner bod y fyddin ym maracs Deepcut wedi methu gofalu am recriwtiaid ifanc, gyda llawer yn rhy ychydig o swyddogion i hyfforddi a goruchwylio’r darpar filwyr.

Hefyd bu’r Crwner yn cyfeirio at ddiwylliant o yfed yn drwm a chysgu gyda sawl partner rhywiol ar y safle yn Surrey.

Roedd y Fyddin yn derbyn, meddai, bod rhai o’r hyfforddwyr yn “gweld merched ifanc fel her rywiol”.