Protest Cymdeithas yr Iaith ynghylch y rhaglen.
Mae BBC Cymru wedi ymddiheuro am y ffaith nad oedd ei rhaglen materion cyfoes Week In Week Out – The Cost Of Saving The Welsh Language wedi “cyrraedd safonau uchel arferol y gyfres”.

Fe gafodd y rhaglen ei dangos ar nos Fawrth, 24 Mai, a bu’n rhaid i’r cynhyrchwyr hepgor cyfeiriad at gostau gweithredu’r Safonau cyn darlledu.

Mewn straeon ar radio ac ar ei gwefannau i hyrwyddo’r rhaglen roedd y BBC yn honni y gallai gweithredu’r Safonau, sef set o reolau i gyrff cyhoeddus ar sut i ddarparu gwasanaethau dwyieithog,  gostio “£200 miliwn”.

Bu’n rhaid hepgor y ffigwr hwn o’r rhaglen ei hun ac fe gyfaddefodd y BBC nad oedd sail gadarn i’r swm.

Ond wedi darlledu’r rhaglen bu mwy o gwyno am ei chynnwys ac mi wnaeth Comisiynydd y Gymraeg ofyn am gael cyfarfod pennaeth BBC Cymru.

Gall golwg360 ddatgelu bod y BBC, mewn ymateb i “wylwyr anhapus” fu’n cwyno am gynnwys Week In Week Out (WIWO), wedi cyhoeddi ymddiheuriad llaes yn yr adran ‘Complaints’ ar eu gwefan.

Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts, ymysg y rhai fu’n galw ar y BBC i ymddiheuro’n gyhoeddus am gynnwys y rhaglen.

Hefyd mae hi am i’r BBC ddarlledu rhaglen “yn ystod oriau brig sy’n adlewyrchu realiti ceisio defnyddio’r Gymraeg wrth dderbyn gwasanaethau o safbwynt siaradwyr yr iaith ledled Cymru”.

Yn ôl Liz Saville Roberts roedd y rhaglen “â naws gwawdio a dibrisio’r iaith Gymraeg, a, thrwy gysylltiad, ei siaradwyr”.

“Darlledwyd sylwadau oedd yn ffeithiol anghywir, megis cyfeirio at yr angen i gyflogi dau dderbynnydd er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog. Cafwyd cynnwys hefyd a fyddai’n gwneud i siaradwyr Cymraeg deimlo bod rhagfarn yn eu herbyn, a bod eu hiaith a diwylliant yn ddiwerth…mae rhagfarn yn erbyn iaith yn rhagfarn yn erbyn ei siaradwyr.”

Ar eu gwefan mae’r BBC yn cydnabod eu bod wedi rhoi “camargraff y byddai’r Safonau yn peri i Gyngor Torfaen orfod cyflogi derbynnydd ar wahân ar gyfer siaradwyr Cymraeg, lle wrth gwrs y byddai derbynnydd sy’n siarad Cymraeg yn medru delio â’r cyhoedd yn y ddwy iaith.”

Ymddiheuriad y BBC yn llawn

Dyma sydd gan y BBC i’w ddweud yn adran ‘Complaints’ ei gwefan:

‘Rydym yn ymddiheuro am y ffaith nad oedd y rhaglen hon yn cyrraedd safonau uchel arferol y gyfres.

Tra bod y rhaglen wedi adlewyrchu nifer o gamau cadarnhaol i gefnogi’r Gymraeg mewn gwahanol rannau o Gymru heb unrhyw fwriad i’w chollfarnu; ar fater penodol Mesur y Gymraeg ni wnaeth y rhaglen egluro’n ddigonol pam fod y Mesur yn cael ei gyflwyno a’i amcanion. Er bod cyfeiriad at gefnogaeth drawsbleidiol i’r Mesur, dylai’r rhaglen fod wedi adlewyrchu ystod ehangach o safbwyntiau o Dorfaen a thu hwnt, gan gynnwys safbwynt unigolion sy’n dymuno cael gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Tra bod cwestiynau dilys i’w gofyn ynglŷn â chost posibl gweithredu‘r mesurau, fel gydag unrhyw wariant cyhoeddus, credwn hefyd nad oedd digon o dystiolaeth yn y rhaglen i honni fod gan y Safonau “huge price tag”. Cafodd ffigwr oedd yn ceisio rhoi amcangyfrif o gyfanswm cost cyflwyno’r safonau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru ei dynnu’n ôl ar ddiwrnod y darllediad gan nad oedd y data a ddefnyddiwyd yn gadarn, ac fe wnaethom ni ymddiheuro am gynnwys y ffigwr hwn mewn adroddiadau newyddion yn gynharach yn y dydd.

Rydym hefyd yn derbyn y dylai rhai elfennau o’r rhaglen fod wedi eu mynegi yn gliriach; er enghraifft, y sgwrs o fewn y rhaglen a roddodd gamargraff y byddai’r Safonau yn peri i Gyngor Torfaen orfod cyflogi derbynnydd ar wahân ar gyfer siaradwyr Cymraeg, lle wrth gwrs y byddai derbynnydd sy’n siarad Cymraeg yn medru delio â’r cyhoedd yn y ddwy iaith. Hefyd, er i’r rhaglen adlewyrchu’r ffaith y gall ambell i gyngor gydymffurfio â’r Safonau heb unrhyw neu fawr ddim cost, rydym yn derbyn y byddai wedi bod yn well cymharu Torfaen gydag awdurdodau cyfagos tebyg, ac y dylid bod wedi archwilio sail y costau honedig yn fwy trylwyr.’

Mae golwg360 wedi gofyn i BBC Cymru a fyddan nhw’n cytuno i gais Liz Saville Roberts ac yn darlledu rhaglen newydd yn trafod y sefyllfa o ran darparu gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg.

Y Gymdeithas yn falch, ond…

Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Rydym yn falch bod ymddiheuriad, ond rydyn ni’n aros i glywed a fydd y gorfforaeth yn cymryd camau pendant er mwyn atal y math yma o ddarlledu rhagfarnllyd rhag digwydd eto. Rydym wedi gofyn am sawl cam ymarferol er mwyn gwella’r sefyllfa ac unioni’r cam, gan gynnwys cyrsiau ymwybyddiaeth iaith i’w holl staff. Nid darllediad unigryw mo’r bennod benodol hon o Week in Week Out yn anffodus, mae problem ehangach o ran sut mae’r BBC yn ymdrin â’r Gymraeg, yn enwedig ar yr ochr newyddion a materion cyfoes Saesneg. Bydd y BBC fel corff yn dod o dan fframwaith y Safonau eu hunain yn fuan, ac mae’n bwysig iawn nad ydyn nhw’n caniatáu i deimladau eu penaethiaid am sut maen nhw fel corff yn mynd i gyflawni’r hawliau newydd effeithio ar eu gogwydd golygyddol.”

DIWEDDARIAD: Mewn e-bost yn ymateb i gwynion y Gymdeithas, mae Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru yn dweud: “Yn amlwg rydym yn asesu’r gwersi sydd i’w dysgu o’r rhaglen benodol yma… Byddwn yn parhau i archwilio materion sydd yn ymwneud â’r iaith a’i datblygiad ar draws ein gwasanaethau yn y misoedd nesaf.”