Peter Hain - beirniadu arweinwyr Llafur Cymru (Llun parth cyhoeddus)

Mae arweinydd yr ymgyrch Lafur tros Ewrop yng Nghymru, Peter Hain, wedi galw ar ffigurau amlwg y blaid Gymreig i wneud mwy i gefnogi’r ymgyrch aros.

Wrth gael ei holi ar Radio Wales roedd yn gwrthod ymuno yn y beirniadu ar yr arweinydd Prydeinig, Jeremy Corbyn, am ddiffyg ymrwymiad gan fynnu bod rhaid i bawb wneud rhagor.

Mae yna waith anferth i’w wneud yn ystod yr wythnosau nesa’, meddai, ac fe alwodd ar “wleidyddion etholedig” yng Nghymru i fod yn fwy amlwg.

Y cefndir

Mae Jeremy Corbyn wedi cael  ei gondemnio am beidio â chymryd rôl amlwg yn yr ymgyrch aros, er iddo wneud datganiad clir ynghynt yr wythnos yma’n dweud bod hawliau gweithwyr yn dibynnu ar fod yn yr Undeb.

Mae arolygon barn hefyd wedi dangos bod pleidleiswyr yn ddryslyd ynglŷn ag agwedd Llafur at yr Undeb ac mae’r cyn-Ysgrifennydd Cartref Llafur, Alan Johnson, wedi cwyno bod yr ymgyrch yn edrych fel brwydr rhwng Torïaid a’i gilydd.

Agwedd Llafur Cymru yw fod miloedd o swyddi yng Nghymru hefyd yn dibynnu ar yr Undeb ond dyw gwleidyddion Cymreig, gan gynnwys y Prif Weinidog Carwyn Jones, ddim wedi bod yn amlwg yn yr ymgyrchu.