Guto Bebb
Yn ôl Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, bydd angen “canlyniad clir” yn y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod y blaid Geidwadol yn dod ôl at ei gilydd.

“Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod ni’n cael y canlyniad cywir ar 23 Mehefin, ac os yw’r canlyniad hwnnw’n ganlyniad clir, bydd hi’n hawdd iawn tynnu pobol nôl at ei gilydd,” meddai Guto Bebb, sy’n ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

“Yr hyn ‘da ni angen ydy Ewrop sy’n cydnabod gwahaniaethau, tra’n adeiladu ar yr hawl i fasnachu efo’n gilydd.”

Mae gan Guto Bebb gyfrifoldeb dros y Gymraeg ar faterion sydd heb eu datganoli, a dywedodd mai un o’i gyfrifoldebau oedd cynyddu ymwybyddiaeth y Gymraeg yn adrannau Llywodraeth Prydain.

“Mae’n allweddol bwysig bod Swyddfa Cymru yn sicrhau bod adrannau yn San Steffan yn ymwybodol o’r iaith Gymraeg i gychwyn a hefyd eu cyfrifoldebau nhw tuag at y Gymraeg.

“Un o’r pethau sydd wedi creu cymhlethdod bod Deddf Iaith 2011 yn golygu bod ambell i adran yn San Steffan yn credu nad oedd honno’n berthnasol iddyn nhw.”


Amddiffyn canoli’r swyddfa dreth

Gofynnodd golwg360 wrtho am y penderfyniad i ganoli’r swyddfa dreth, gan gau’r swyddfa ym Mhorthmadog a symud swyddi i Gaerdydd.

Fe wnaeth Guto Bebb amddiffyn y penderfyniad drwy ddweud bod “mwy o swyddi” yn dod i Gymru o’r newid a bydd y gwasanaeth Cymraeg oedd yn cael ei ddarparu ym Mhorthmadog yn cael ei “ddiogelu.”

“Da ni’n ymwybodol o’r her sy’n wynebu cyllideb y wlad,” meddai.

“Mae ‘na fwy o swyddi yn dod i Gymru oherwydd y newid, ‘da ni’n sicr bod y gwasanaeth Cymraeg yn mynd i gael ei ddiogelu.

“Mi ydan ni fel adran wedi gwneud hi’n glir bod ‘na egwyddorion a phwyntiau o bwys yn ymwneud â’r penderfyniad o symud swyddi o gefn gwlad i Gaerdydd. Amser a ddengys os byddwn ni’n effeithiol.”