Carla Lane, sydd wedi marw yn 87 oed (Llun: Chris Ison/PA Wire)
Fe fu farw’r awdures deledu a oedd hefyd yn berchen ar ynys fechan ger Pwllheli.

Roedd Carla Lane yn 87 oed ac yn enwog am sgrifennu cyfresi comedi fel The Liver Birds, Bread a Butterflies.

Ond roedd hi hefyd wedi creu rhywfaint o ddadlau wrth brynu Ynys Tudwal Fach yn Llŷn yn 1992.

Fe adawodd yr ynys yn wag, yn hafan i adar a bywyd gwyllt – cariad mawr arall ei bywyd. Roedd seintwar anifeiliaid hefyd wedi ei henwi ar ei hôl ar lannau Mersi.

Ei gwaith

Roedd y rhan fwya’ o’i gwaith yn ymwneud â bywydau merched o’i hardal enedigol yn Lerpwl.

Ei henw gwreiddiol oedd Romana Barrack ond fe ddechreuodd ddefnyddio’r ffugenw Carla Lane wrth ddechrau sgrifennu.

“Roedden ni’n lwcus iawn bod ei ffraethineb, ei phenderfyniad a’i hangerdd wedi dod â Lerpwl yn fyw ar y sgrin i eraill ei rhannu,” meddai teulu Carla Lane mewn teyrnged iddi.