Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi dweud ei fod yn gwybod pwy fydd yn ei dîm i herio Slofacia ar ddiwrnod cyntaf cystadleuaeth Ewro 2016 ar Fehefin 11.

Ar ôl cyhoeddi’r garfan o 23 i deithio i Ffrainc, awgrymodd Coleman mai’r unarddeg sy’n herio Sweden mewn gêm gyfeillgar yn Stockholm ar Fehefin 5 fydd yn herio Slofacia chwe niwrnod yn ddiweddarach.

Dywedodd Coleman: “Rwy wedi edrych ar yr unarddeg dw i am iddyn nhw chwarae yn erbyn Slofacia, a dw i’n gwybod i raddau nawr [pwy ydyn nhw]…

“Heb ddatgelu unrhyw beth, pa bynnag dîm fydd yn dechrau gyda fi… dych chi ddim yn dwp, ry’ch chi’n gwybod ein hanes ni.”

Un chwaraewr fydd ar goll ar gyfer y gêm gyfeillgar honno yw’r chwaraewr canol cae Joe Ledley, sydd wedi torri ei goes, ond mae Coleman yn ffyddiog y gallai e ddechrau’r gêm yn erbyn Slofacia pe bai e’n parhau i wella.

“Rhwng nawr a hynny, yn gorfforol, rhaid i fi edrych i weld lle mae’r bois arni a beth maen nhw’n gallu ei wneud.”

Zlatan Ibrahimovic

Un her sydd yn wynebu Cymru yn y gêm honno yn erbyn Sweden yw’r ymosodwr Zlatan Ibrahimovic, prif sgoriwr ei wlad, ond mae’r rheolwr yn mynnu bod y chwaraewyr yn edrych ymlaen at y frwydr.

“Yn yr Uwch Gynghrair, maen nhw’n chwarae yn erbyn ymosodwyr o’r radd flaenaf bob wythnos.

“Dim ond un Zlatan sydd. Mae e’n unigryw ar y blaned hon. Mae e’n fwystfil.

“Mae e’n gallu sgorio goliau unrhyw le, unrhyw ffordd. Ond dyw e ddim yn rhywbeth y bydd ofn arnyn nhw ei wynebu.

“Dwi’n credu y byddan nhw’n edrych ymlaen at y prawf hwnnw.”