Wyn Melville Jones,
Wrth i’r ail ddiwrnod o gystadlu brysuro yn Sir y Fflint, mae yna ddisgwyl ymlaen hefyd wrth i Mistar Urdd ddathlu ei ben-blwydd yn ddeugain oed.

I nodi’r achlysur, fe fydd parti arbennig yn cael ei gynnal am 2yp ym Mhentre’ Mistar Urdd, gyda gweithgareddau i blant.

Yna, fe fydd gorymdaith yn cael ei chynnal ddiwedd y prynhawn draw i’r Pafiliwn lle bydd seremoni fechan i nodi’r digwyddiad.

Yr artist sy’n wreiddiol o Dregaron, Wynne Melville Jones, fu’n gyfrifol am lunio’r bathodyn pan oedd yn Swyddog Marchnata’r Urdd ar ddechrau’r 1970au.

Mae’r artist hefyd yn adnabyddus am sefydlu’r cwmni cysylltiadau cyhoeddus StrataMatrix, ac yn ddiweddar mae un o’i luniau mwyaf adnabyddus, sef darlun o ‘Graig Elvis’ wedi’i gyflwyno i gasgliad amgueddfa Elvis Presley yn Graceland, ym Memphis Tennessee.

Mici Plwm – y Mistar Urdd gwreiddiol – yn trafod llwyddiant y cymeriad: