Cafodd dyn ei ladd ar ôl i’r tractor yr oedd yn ei yrru droi drosodd brynhawn ddoe.

Cafwyd hyd i gorff y dyn 50 oed tua 3pm yn Llanharan, pentref tua hanner ffordd rhwng Pontypridd a Pen-y-bont ar Ogwr.

Nid oedd unrhyw gerbyd heblaw’r tractor hynafol glas yn rhan o’r digwyddiad.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am unrhyw dystion i’r ddamwain ac am wybodaeth gan unrhyw rai a welodd y tractor yn cael ei yrru.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu yng Ngwaelod y Garth, Caerdydd ar 101 neu eu gorsaf heddlu leol gan nod cyfeirnod 1600196124.