Mae swyddogion o Gyngor Sir Abertawe wedi dweud eu bod nhw’n ystyried ceisio sefydlu parth cefnogwyr yn y ddinas fel bod modd gwylio gemau Cymru yn Ewro 2016 ar y sgrin fawr.

Ond mae sawl awdurdod lleol arall yng Nghymru, gan gynnwys yng Nghaerdydd, wedi dweud nad oes ganddyn nhw gynlluniau tebyg ar y gweill eto.

Roedd parthau o’r fath yn boblogaidd iawn yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd llynedd, gyda’r un yng Nghaerdydd yn denu miloedd o gefnogwyr oedd wedi methu â chael tocynnau i’r gemau eu hunain.

Ond yn ôl rhai cynghorau, costau a diffyg noddwyr sydd yn gyfrifol am fethu â gwneud trefniadau tebyg ar gyfer cystadleuaeth bêl-droed Pencampwriaethau Ewrop yr haf hwn.

Disgwyl penderfyniad

Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr Cymru deithio i Ffrainc ar gyfer y gystadleuaeth, ond fe fydd llawer mwy yn aros adref i wylio tîm Chris Coleman ar y teledu.

Ac mae’r cynghorydd a chyn-AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black, eisoes wedi galw ar Gyngor Abertawe i sefydlu parth cefnogwyr yn Stadiwm Liberty i ddangos y gemau.

Ond mae golwg360 ar ddeall mai’r lleoliad mwyaf tebygol ar gyfer unrhyw barth o’r fath yw Sgwâr y Castell, ble bydd y Gemau Olympaidd ym mis Awst hefyd yn cael eu dangos ar sgriniau mawr.

“Mae trafodaethau ynglŷn â dangos gemau Cymru ym Mhencampwriaethau Ewrop yn parhau,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.

“Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yn fuan.”

‘Dim cyllideb’

Yn ôl Cyngor Caerdydd maen nhw’n edrych ar ffyrdd posib o sefydlu parth cefnogwyr yn y brifddinas, ond mai pwysau ariannol yw’r prif reswm pam nad oes unrhyw beth wedi’i drefnu hyd yma.

“Mae’n bwysig i bobl ddeall bod ardaloedd cefnogwyr diweddar wedi’u cefnogi’n sylweddol gan noddwyr a chyrff trefnu. Roedd Ardal Cefnogwyr Cwpan Rygbi’r Byd y llynedd yn enghraifft o hyn,” esboniodd llefarydd ar ran y cyngor.

“Byddai’r Cyngor yn croesawu trafodaethau â noddwyr a chyrff trefnu ac yn hapus i hwyluso ardal cefnogwyr, ond mae toriadau i gyllidebau’r cyngor dros y blynyddoedd yn golygu nad oes gennym yr arian i redeg ardal cefnogwyr.

“Fel pawb arall yn y wlad, bydd y Cyngor yn cefnogi’r tîm yn Ffrainc a dymunwn y gorau iddynt yn y twrnament.”

Dim yn y gogledd

Yn ôl y sôn mae’n bosib y bydd parth cefnogwyr yn cael ei sefydlu yng Nghasnewydd ar gyfer yr Ewros hefyd, er nad yw hynny wedi cael ei gadarnhau eto.

Ond fe ddywedodd awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru wrth golwg360 nad oes unrhyw drefniadau wedi cael eu gwneud ar hyn o bryd ar gyfer parthau cefnogwyr mewn trefi fel Bangor, Caernarfon, Conwy, Llandudno, Bae Colwyn a Wrecsam.

Roedd yr un peth yn wir am drefi yn y gorllewin a’r de gan gynnwys Aberystwyth, Caerfyrddin, Llanelli a Phen-y-bont.

Fodd bynnag mae rhai mentrau preifat, gan gynnwys cwrs rasio ceffylau Ffos Las ger Cydweli, yn bwriadu dangos rhai gemau ar sgriniau mawr sydd ganddyn nhw.